Hanesion Graddio | "Mae'r ffaith ei fod yn anodd yn golygu ei fod hyd yn oed yn fwy gwerth chweil"
19 Gorffennaf, 2022
Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.
Mae Greg Hardman, o Maidenhead, yn dathlu graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru (PDC), ar ôl dychwelyd i astudio fel myfyriwr aeddfed.
Yn gweithio fel Rheolwr Ysgolion Cynradd gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Wigan Athletic, mae Greg yn goruchwylio'r gwaith o reoli a gweithredu darpariaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer ysgolion cynradd. Cododd y cyfle i wneud cais am y BSc Hyfforddi a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol ac fe fachodd ar y cyfle.
Ag yntau heb ymroi cymaint ag y gallai yn yr ysgol, roedd Greg yn benderfynol o lwyddo. Fodd bynnag, mae heriau ynghlwm wrth ddychwelyd i'r byd academaidd yn eich tridegau hwyr. Aeth i ddarlithoedd a chyrsiau preswyl, a chyflwyno aseiniadau o fewn terfynau amser i gyd ar yr un pryd â gwneud swydd lawn amser a chodi dau blentyn ifanc gartref.
Dywedodd: "Dim ond tua 7 mis oed oedd fy mhlentyn ieuengaf pan ddechreuais i’r cwrs, felly roedd yn anodd dod adref o'r gwaith, setlo’r plant i'r gwely ac yna mynd i weithio ar y gliniadur. Gwnaeth Spotify a llwyth o goffi fy nghynnal drwy sawl noson hwyr.
"Roedd fy ngwraig a fy mhlant mor gefnogol drwy gydol fy astudiaethau, pan fu'n rhaid i fi ddiflannu i wneud gwaith dros y penwythnos neu gyda'r nos. Roedd y plant yn argyhoeddedig bod Dadi yn astudio yn y 'Monsters University', fel yn eu hoff ffilm Pixar."
Her arall oedd bod gan Greg glefyd Crohn a'i fod wedi mynd yn sâl iawn yn ystod ei gyfnod yn astudio.
"Cefais y pwl gwaethaf mewn degawd," meddai.
"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu cerdded o un pen i'r ystafell i'r llall a doeddwn i ddim yn gallu gweithio am ddau fis. Gan fy mod wedi gorfod mynd i gymaint o apwyntiadau ysbyty ar gyfer profion i geisio dod o hyd i'r feddyginiaeth gywir ac am fy mod wedi llwyr ymlâdd, roeddwn yn poeni na fyddwn, efallai, yn gallu cwblhau fy ngwaith o fewn y terfynau amser, ond fe lwyddais i gyflwyno'n brydlon yn y pendraw.
"Roedd bod â chlefyd Crohn yn fanteisiol mewn ffordd annisgwyl, fodd bynnag. Yn ystod un ymweliad preswyl â Pharc Chwaraeon PDC, gallwn weld bod bachgen ifanc yn anghyfforddus, felly dyma ddechrau sgwrsio a dywedodd wrtha i ei fod newydd gael diagnosis o Crohn's. Gall fod yn chwithig siarad amdano (yn enwedig pan yn ifanc) a does dim llawer o bobl yn wybodus iawn am y clefyd. Roedden ni’n ffrindiau o’r eiliad hwnnw."
Penderfyniad llwyr Greg oedd yn gyfrifol am ei lwyddiant anhygoel. Dywedodd: "Roeddwn i wir eisiau fy herio fy hun yn academaidd. Mae'r ffaith ei fod yn anodd yn golygu ei fod hyd yn oed yn fwy gwerth chweil gan fy mod yn gwybod mor galed y gweithiais i. Rwy'n falch iawn ohonof fy hun.
"Mae'r tair blynedd diwethaf wedi fy nysgu mor bwysig yw credu ynoch chi’n hun."
Dywedodd Robyn Pinder, Arweinydd y Cwrs Hyfforddi Pêl-droed: "Mae Greg wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i'r rhaglen. Mae wedi gweithio'n galed iawn ac wedi mynd allan o'i ffordd i gefnogi ei gyfoedion. Rydym yn hynod falch o'r gwydnwch a'r ymroddiad y mae wedi’u dangos a byddwn yn gweld ei eisiau ar gyrsiau preswyl, ond rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda fe a'i deulu wrth raddio."