Prif ymgynghorydd yr Athro Keshav Singhal MBE yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan PDC
20 Gorffennaf, 2022
Mae’r Athro Keshav Singhal MBE, Uwch Ymgynghorydd Orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon.
Derbyniodd yr Athro Singhal, sy'n arbenigo mewn llawdriniaeth i osod clun a phen-glin newydd, y wobr mewn seremoni raddio ddydd Mercher, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Wales) yng Nghasnewydd.
Yr Athro Singhal yw Cadeirydd y grŵp Asesu Risg COVID-19, a arweiniodd ar ddatblygu offeryn Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan i helpu i leihau’r risg o gontractio COVID-19 yn y gweithle.
Yn 2020, cafodd ei ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Ymgynghorol De Cymru yr Arglwydd Ganghellor, ac yn 2021 fe’i gwnaed yn Gonswl Anrhydeddus cyntaf Gweriniaeth Gwlad Pwyl gydag awdurdodaeth i Gymru.
Mae Keshav ar fwrdd llywio cynllun gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru, gan gyfrannu at strategaeth Cydraddoldeb y Llywodraeth. Mae'n Gadeirydd
Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (BAPIO) yng Nghymru.
Wrth siarad yn y seremoni graddio ddydd Mercher 20 Gorffennaf, dywedodd Doctor Singhal: "Mae'n anrhydedd ac yn bleser mawr i mi gael Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol De Cymru.
“Mae'r wobr hon yn adlewyrchu'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd nid yn unig ym maes hyfforddi ac addysgu, ond hefyd ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth lle mae Prifysgol De Cymru wedi wedi bod yn arweinydd."