FareShare Cymru yn elwa ar ffilm hyrwyddo gan fyfyrwyr PDC
17 Hydref, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/10-october/FareShare_Cymru_logo.jpg)
Mae myfyrwyr ffilm o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu FareShare Cymru – elusen sy’n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi bwyd – drwy greu ffilm hyrwyddo i dynnu sylw at ei gwaith hanfodol wrth fynd i’r afael â gwastraff bwyd.
Bu’r grŵp o fyfyrwyr, dan arweiniad y cyfarwyddwr Arwen Harrison a’r cynhyrchydd Chloe Parfitt, yn gweithio’n agos gyda FareShare Cymru fel rhan o’u modiwl cydweithredol yn ystod eu hail flwyddyn o BA (Anrh) Ffilm.
Fe wnaeth Arwen, 20, o Gaerdydd, fwynhau gweithio ar y prosiect yn fawr iawn. Meddai: “Roedd FareShare yn bleser gweithio gyda nhw ar y ffilm hon. Roeddent yn gwerthfawrogi ein cyfranogiad yn y prosiect ac yn barod i gefnogi ein syniadau ym mha bynnag ffordd bosibl.
“Fel elusen sefydledig ag enw da, rhoddodd FareShare gyfle i ni gysylltu â sefydliadau partner fel Oasis Caerdydd. O’r cysylltiad hwn roeddem yn gallu ffilmio proses ailddosbarthu bwyd FareShare yn llwyddiannus mewn ffordd a oedd yn amlygu nod allweddol FareShare, sef ‘brwydro newyn, mynd i’r afael â gwastraff bwyd’.”
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/Ty%C3%8C%C2%82-Crawshay-_49783-(1).jpg)
Dywedodd Katie Padfield, Pennaeth Datblygu yn FareShare Cymru: “Ar ôl diweddaru ein gwefan y llynedd, roeddem yn chwilio am ffilmiau hyrwyddo wedi’u diweddaru i gyd-fynd ag ef. Roeddem yn awyddus i ddangos taith y bwyd rydym yn gweithio ag ef yn FareShare Cymru – o ddosbarthu i’n warws yng Nghaerdydd, cael ei ddidoli a’i bacio gan wirfoddolwyr ac yna gwneud ei ffordd i elusennau a grwpiau cymunedol ar draws De Cymru.
“Roeddem hefyd am dynnu sylw at yr effaith ychwanegol y gall bwyd ei gael pan gaiff ei ddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol yr ydym yn gweithio gyda nhw, gan eu bod yn darparu mwy na chymorth bwyd yn unig i bobl agored i niwed yn eu cymunedau.
“Roedd y myfyrwyr yn effeithlon ac yn broffesiynol iawn eu hymagwedd. Fe wnaethant weithio’n dda fel tîm, roeddent yn agored iawn i adborth ac wedi cynhyrchu ffilm o ansawdd uchel yr ydym yn falch iawn ohoni.”
I gael rhagor o wybodaeth am FareShare Cymru a sut y gallwch chi helpu, ewch i https://fareshare.cymru/volunteer-with-us/