Myfyrwyr Ffilm yn creu prosbectws rhithwir ar gyfer Ysgol Gynradd Maindee Casnewydd

10 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Maindee_Primary_School_Newport.jpg

Mae myfyrwyr Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru wedi creu prosbectws rhithwir ysbrydoledig ar gyfer Ysgol Gynradd Maindee yng Nghasnewydd, gan ddathlu ei hamgylchedd amrywiol, cynhwysol.

Fel rhan o’u cwrs, cafodd myfyrwyr y dasg o wneud ffilm hyrwyddo er budd sefydliad nid-er-elw, a buont yn gweithio gyda’r ysgol i wneud y prosbectws rhithwir ar gyfer eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gan gydweithio â Dale Jones, Pennaeth Cynorthwyol ac Arweinydd Digidol yr ysgol, bu’r myfyrwyr yn cyfweld â disgyblion, staff a rhieni am yr hyn sy’n gwneud Ysgol Gynradd Maindee mor arbennig.

Placeholder Image 2

Roedd Louie Dinham, 21 oed o Drefforest, yn un o’r myfyrwyr wnaeth y ffilm, ochr yn ochr â Finley Mundy, Louis Henrich a Ben Chamberlain. Dywedodd Louie: “Fe wnaethon ni saethu’r ffilm dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn yr ysgol, gan dreulio amser yn mynd i mewn i bob dosbarth a chael ffilm o’r gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal.

“Yna treuliwyd amser yn siarad ag ychydig o’r plant, athrawon a rhieni am yr hyn y mae’r ysgol yn ymfalchïo ynddo, gan gynnwys eu cyfleusterau cymorth ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu a’r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

“Ar y dechrau roeddem ychydig yn bryderus gan nad oedd yr un ohonom wedi gweithio gyda phlant o'r blaen, ond fe wnaethom ni i gyd fwynhau'r broses gyfan yn fawr. Helpodd Dale wneud y penderfyniadau creadigol gyda ni a threfnodd lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws yr ysgol i ni eu ffilmio. Y rhan orau o weithio gydag Ysgol Gynradd Maindee oedd eu bod yn gwybod yn union beth roedden nhw ei eisiau gennym ni, ac rydw i’n teimlo’n falch ein bod ni wedi gallu bodloni eu disgwyliadau.”

Ychwanegodd Dale Jones: “Ar ôl gweithio gyda PDC yn flaenorol, roedden ni’n gyffrous i weithio mewn partneriaeth â’r myfyrwyr i greu prosbectws ysgol rhithwir. Mynychom ddiwrnod cyfweld gyda thimau lluosog o’r cwrs Ffilm a bu i ddiddordeb brwd Tîm Epsilon yn y prosiect greu argraff arnom.

“Roedd yn wych gweld y myfyrwyr yn datblygu ac yn dod yn fwy hyderus wrth i’r ffilmio fynd yn ei flaen – gallem weld eu hangerdd am y ffilm a’u hymroddiad i’w gwneud yn llwyddiant. Roeddent yn frwdfrydig yn ystod y ffilmio, yn gyfathrebwyr gwych ac yn gweithio'n dda fel tîm i gyflwyno'r prosbectws i ni. Rwy’n falch iawn gyda’r fideo terfynol ac yn edrych ymlaen at ei ddangos!”