PDC yn lansio partneriaeth â bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i gefnogi datblygiad staff
28 Hydref, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/10-october/Cwm_Taf_MoU_Louise_Bright_and_Hywel_Daniel.jpg)
Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu Busnes yn PDC, a Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi lansio partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) i gefnogi datblygiad staff.
Yn hanesyddol, mae PDC a BIPCTM wedi cydweithio mewn amrywiaeth o feysydd, a bydd y bartneriaeth hon yn helpu’r ddau sefydliad i archwilio cyfleoedd dysgu clinigol a phroffesiynol gyda’r nod o ddatblygu cynghrair strategol, gan hyrwyddo addysg, ymchwil a hyfforddiant, sy’n datblygu llwybrau gyrfa ymhellach ar gyfer gweithwyr mewn rolau gwasanaethau proffesiynol.
Bydd y bartneriaeth yn:
- Sicrhau bod PDC a BIPCTM yn cydweithio i hyrwyddo cyfleoedd dysgu i’r holl staff;
- Darparu mynediad haws i Addysg Uwch a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer datblygu gyrfa er mwyn gwella sgiliau’r gweithlu;
- Darparu cyfleoedd rhwydweithio drwy ddatblygu partneriaeth Diwydiant drwy'r Academaidd;
- Darparu mynediad i gyfleusterau ymchwil;
- Darparu mynediad at gyfleoedd ariannu trwy Raglenni Partneriaeth ac Ymgysylltu PDC a’r Academi Dysgu Dwys.
Dywedodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu Busnes yn PDC: “Mae meithrin perthnasoedd ym Mhrifysgol De Cymru yn biler hanfodol yn ein strategaeth ar gyfer 2030. Rydym am gael effaith yn y byd go iawn, ac mae ein partneriaid yn ein helpu i wneud hynny.
“Dim ond y dechrau yw’r gwaith rydym wedi’i wneud gyda BIPCTM, ac mae’r drysau’n agored iawn ac yn wirioneddol agored o ran archwilio cydweithio sydd o fudd i’r ddwy ochr mewn meysydd fel DPP, trawsnewid y gweithlu, a llawer mwy. Bydd yn caniatáu inni ymateb i’r heriau a wynebir gan ein gwasanaeth iechyd drwy ddod â phobl ynghyd i amlygu synergeddau a chreu gofod creadigol i archwilio’r cyfleoedd hynny. Mae’r effaith sydd gennym eisoes ym maes iechyd ar draws y brifysgol, ac rydym wedi gweld newid sylweddol yn y gwaith y gallwn ei gyflawni a bydd y bartneriaeth hon yn caniatáu inni gryfhau’r cysylltiadau hynny.”
Ychwanegodd Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Pobl yn BIPCTM: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol De Cymru yn un allweddol i ni fel Bwrdd Iechyd, a bydd yn parhau i ysbrydoli ein pobl ar draws CTM i ddatblygu a symud ymlaen trwy eu gyrfaoedd. Mae ein 14,000 a mwy o bobl yn chwarae rhan hanfodol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n rhaid i ni esblygu ac uwchsgilio’n barhaus i ddatblygu’r gwasanaethau a ddarparwn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth wrth inni edrych at 2030 a thu hwnt. Byddwn yn annog pawb i archwilio’r cyfleoedd datblygu gwych sydd ar gael yn y Brifysgol.”
Dywedodd Sharon Mott, Rheolwr Gwasanaethau Hyfforddi yn PDC: “Dyma’r cam cyntaf ar gyfer datblygu partneriaeth gref sy’n fuddiol i’r ddwy ochr sy’n mynd i’r afael â heriau, yn annog cyfnewid gwybodaeth ac yn ysbrydoli arloesedd.”