Portreadau golchi dillad cloi i lawr yn ennill gwobr ffotograffiaeth Taylor Wessing o £15,000
26 Hydref, 2022
Mae Clémentine Schneidermann, a raddiodd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol, wedi ennill gwobr portread ffotograffig Taylor Wessing o £15,000 – y wobr fwyaf mawreddog o’i bath yn y DU.
Mae ei chyfres o bortreadau, o'r enw Laundry Day, yn dogfennu'r tasgau cyffredin, dyddiol o fywyd yn ystod y cyfnod clo, ac fe'u dewiswyd ar gyfer y wobr flynyddol, a ddyfarnwyd gan y National Portrait Gallery.
Yn byw ac yn gweithio rhwng Paris a De Cymru, graddiodd Clémentine gyda PhD yn seiliedig ar ymarfer o PDC yn 2021. Mae ei ffotograffau’n darlunio ei chymdogion yn hongian dillad wedi’u golchi yng ngardd eu cartref yn Ne Cymru. Cymerwyd y portreadau wrth gadw pellter cymdeithasol yn ystod cyfnodau o gwarantîn, hunanynysu a chyfnod clo cenedlaethol yn ystod pandemig COVID-19.
Dywedodd Clémentine: “Mae’r delweddau hyn yn ymateb i amser tawel pan oedd mynd at ddieithriaid yn heriol iawn. Siaradant am y ddeuoliaeth rhwng marweidd-dra a threigl amser.
"Daeth gardd fy nghymydog yn lwyfan bach dychmygol lle y gwnes i ddogfennu eiliadau bach o’i bywyd o’m ffenestr.”
Ysbrydolwyd Clémentine gan ofodau domestig a thasgau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu a gallu ffotograffiaeth i greu ‘naratif barddonol’ o’r eiliadau bach hyn.
“Mae ffotograffwyr fel Stephen Gill, Paul Cabuts a Nigel Shafran wedi bod yn ysbrydoliaeth yn y modd y gwnaethon nhw dynnu lluniau hyfryd o natur gyffredin ein tirweddau presennol yn ogystal â’r mannau di-le o’n cwmpas,” meddai.
“Mewn cyfnod lle mae hunluniau a wynebau ym mhobman o’n cwmpas, trwy guddio wyneb, rwy’n dangos yr hyn sy’n guddiedig yn hytrach na’r gweladwy; mae pobl hŷn hefyd yn aml yn anweledig yn ein cymdeithas felly rwy’n hapus bod y delweddau hyn yn cael rhywfaint o sylw.”
Canmolodd y beirniaid symlrwydd prosiect Clémentine a dweud bod y delweddau'n ennyn ymdeimlad cryf o lonyddwch a thawelwch, yn ogystal ag unigrwydd ac unigedd - er gwaethaf agosrwydd y ffotograffydd. Roeddent yn canmol persbectif anarferol y portreadau, sy’n agos ond ddim yn ddigon agos i weld wyneb yr eisteddwr – a oedd, yn eu barn nhw, yn ‘ddrama ddiddorol gyda chonfensiynau portreadu traddodiadol’.
Dywedodd yr Athro Mark Durden, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Ddogfennol yn PDC: “Trwy gydol ei hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig a doethuriaeth, mae Clémentine wedi bod ag agwedd unigryw a chyffrous at y traddodiad ffotograffig portread. Rwyf wrth fy modd ei bod wedi ennill gwobr mor fawr. Mae hi’n parhau â rhagoriaeth ryngwladol hirsefydlog ffotograffiaeth yn PDC.”