Amser arbed golau dydd: sut gall awr ychwanegol o olau’r haul wella’ch iechyd meddwl

28 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Sunset.jpg

Gan Dr Anne Fothergill, Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl a Shaun Hough, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl.

Mewn llawer o wledydd yn hemisffer y gogledd, mae pobl erbyn hyn wedi symud y cloc awr yn ei flaen ac yn mwynhau awr ychwanegol o olau dydd gyda'r nos. Wrth i'r tywydd gynhesu ychydig, hefyd, mae hyn yn creu rhyw deimlad dymunol bod yr haf ar gyrraedd.

Ond gall golau dydd ychwanegol wella ein lles mewn sawl ffordd.

Pan fydd golau'r haul yn taro rhan benodol o'r retina yn eich llygaid, mae hyn yn sbarduno rhyddhau serotonin (y cemegyn "teimlo'n dda" yn yr ymennydd. Mae cynnydd mewn serotonin yn gysylltiedig â gwelliant yn eich hwyliau.

Gall diffyg golau'r haul arwain at gyflwr o’r enw anhwylder affeithiol tymhorol (SAD), a elwir weithiau'n "iselder y gaeaf". Mae'r anhwylder hwn, a nodweddir gan hwyliau isel, fwyaf cyffredin yn ystod misoedd y gaeaf pan fo llai o oriau o olau dydd.

Mae'r haul yn ffynhonnell fitamin D, sydd â swyddogaethau pwysig yn y corff, megis lleihau llid. Ar wahân i'w fanteision iechyd corfforol, gall diffyg fitamin D achosi i bobl deimlo'n isel ac yn bryderus, tra bo cysylltiad uniongyrchol â golau’r haul yn gallu gwella’r hwyliau. Mae dim ond 5 i 15 munud yn yr haul yn ddigon i gael budd o fitamin D.

Mae golau'r haul hefyd yn helpu i gynhyrchu melatonin, y cemegyn sy'n ein helpu i gysgu'n dda – mae insomnia yn fwy cyffredin yn ystod misoedd tywyllach y gaeaf. Ac mae cael noson dda o gwsg yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles.

Gall mwy o oriau o olau dydd hefyd annog pobl i gymdeithasu mwy. Mae cymdeithasu ac ymgysylltu â phobl eraill yn gysylltiedig â gwell hwyliau a lles.

Mae mwy o olau gyda'r nos hefyd yn rhoi mwy o gyfle i lawer o bobl fynd allan ddiwedd y dydd. Er bod manteision corfforol ac iechyd meddwl gwneud ymarfer corff yn hysbys iawn, gall bod yn yr awyr agored ym myd natur wella ein lles. Gall gael effaith ymdawelu ar y meddwl a gall greu ymdeimlad o heddwch. Gall hefyd ein helpu i ymdopi â straen a blinder meddyliol bywyd pob dydd.

Mae'r fantais therapiwtig o fod yn yr awyr agored, ynghanol byd natur, yn golygu bod "therapi natur", "ecotherapi" neu "therapi gwyrdd" yn aml yn cael ei argymell fel rhan o’r driniaeth ar gyfer cyflyrau fel iselder.

O ystyried hyn oll, efallai nad yw'n syndod bod tystiolaeth yn dangos, pan fydd y clociau'n mynd yn ôl yn yr hydref, fod cyfraddau problemau meddyliol ac emosiynol yn cynyddu o'i gymharu â phan fydd y clociau'n mynd ymlaen yn y gwanwyn.

Gwneud yn fawr ohono

Ar ôl dwy flynedd o bandemig COVID, ac wrth i'r rhyfel barhau yn Wcráin, yn ogystal â phryderon bywyd pob dydd, mae'n naturiol teimlo straen a blinder emosiynol. Mae gwneud yn fawr o'r golau dydd ychwanegol yn beth bach y gallwch ei wneud a allai roi hwb i'ch hwyliau.

Gall mynd allan i'r ardd i fwynhau’r oriau hirach o olau dydd fod yn adfywiol. Os nad oes gennych ardd – neu hyd yn oed os oes – gwnewch yn fawr o fannau awyr agored fel parciau.

Gallech hefyd roi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae hyn yn golygu synhwyro'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas ar y pryd (y synau a'r arogleuon, er enghraifft) a chaniatáu i chi'ch hun feddwl am ddelweddau cadarnhaol (fel gorwedd ar draeth tywodlyd gyda'r tonnau'n torri yn y pellter) heb farnu na dehongli'r hyn rydych chi'n meddwl amdano. Cyfeirir at hyn weithiau fel "delweddu dan arweiniad", a gall ei ymarfer eich helpu i ymlacio eich corff a'ch meddwl, a all yn ei dro leihau teimladau o straen a phryder.

Gall bod ynghanol natur ac o'i gwmpas gyfoethogi’r broses hon, gan ganiatáu i chi roi sylw i synau adar, arogleuon blodau, synhwyro cynhesrwydd yr haul ar eich croen. Dewiswch rywle heddychlon i eistedd yn dawel, a chanolbwyntio ar anadlu’n araf. Fel gydag unrhyw sgil newydd, mae angen ei datblygu’n raddol. Dechreuwch gyda phum munud, a gydag ymarfer rheolaidd, byddwch yn gallu ei wneud am gyfnod llawer hirach mewn dim o dro.

Dylai'r awr ychwanegol o olau ar ddiwedd y dydd olygu hyd yn oed mwy i ni yn sgil yr holl amser ychwanegol rydyn ni wedi’i dreulio'n gaeth i’r tŷ dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly defnyddiwch y golau dydd gwerthfawr hwn – gadewch eich desg, ewch am dro, a rhowch sylw i'r hyn sydd o'ch cwmpas. Mae cryn bosibilrwydd y gwnaiff fyd o les i chi. 

 

Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.