Myfyrwyr Ffilm PDC yn cadw atgofion Rhondda yn fyw gyda chomedi tywyll

21 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Vanishing_Act_film_crew.jpg

Criw Vanishing Act (clocwedd): Lloyd Hughes, Joel Williams, Andreas Kyriakides, Daniel Evans, Kacper Pilzys, Ben Huw Tiley, Jodie Agius, Jake Thompson

Mae grŵp o wneuthurwyr ffilm o Brifysgol De Cymru (PDC) yn rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned yng nghymoedd y Rhondda gyda'u prosiect diweddaraf.

Dan arweiniad y cynhyrchydd Daniel Evans (llun uchod, ar y dde), 33, sy'n wreiddiol o Ynys-hir, mae'r myfyrwyr – sy’n gweithio gyda’i gilydd dan yr enw Arcadian Owls – yn chwilio am gefnogaeth gan y gymuned leol ar gyfer eu ffilm fer, Vanishing Act.

Mae'r comedi tywyll yn adrodd hanes Joe, sydd wedi datblygu ofn marw, a'i brofiad yn cwrdd â Bill, diddanwr plant, sydd ag awydd ei ladd ei hun, ac sydd â chysylltiadau â phlentyndod Joe. Wrth iddyn nhw dreulio mwy o amser gyda'i gilydd yn theatr Bill, mae'r ddau yn twrio drwy’r gorffennol ac yn helpu ei gilydd tuag at ddyfodol newydd.

Dewisodd y tîm Neuadd Les Tylorstown fel lleoliad y ffilm – adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol y Rhondda Fach. Dyma Daniel, sydd yn ei drydedd flwyddyn yn astudio BA(Anrh) Ffilm yn PDC, yn dweud mwy...

"Y tu hwnt i'w chomedi, mae gan Vanishing Act neges ddifrifol yn ei hanfod, sef yr angen i werthfawrogi bywyd. Mae hyn yn arbennig o wir yn y gymdeithas heddiw lle mae bywyd yn mynd yn fwyfwy bregus o'n cwmpas.

"Mae Neuadd Les Tylorstown yn agos i'r pentref lles ces i fy magu a lle mae gen i lawer o atgofion plentyndod, felly roedd mynd yn ôl yno i ffilmio yn brofiad arbennig.

"Cyn gynted ag y cyrhaeddon ni ar gyfer recce, roedden ni'n gwybod ei fod yn berffaith. Bwriad y lleoliad yn y stori yw cyfleu'r gorffennol, rhywle lle cedwir atgofion, a dyna oedd y teimlad cawson ni yno. Roedd y gymuned yn anhygoel ac fe wnaethon nhw adael i ni greu’r ffilm yn y ffordd roedden ni’n dymuno. Fe wnaethon nhw ymddiddori’n fawr yn y prosiect, ac maen nhw wedi bod yn gynnes a chroesawgar!

"Rydyn ni’n credu hefyd fod cefnogi busnesau lleol yn bwysig, a gobeithio y gallwn ni roi rhywbeth yn ôl iddyn nhw drwy hyrwyddo'r ffilm."

Mae Arcadian Owls wedi sefydlu tudalen ariannu torfol i gefnogi'r ffilm, a bydden nhw’n hoffi petai’r gymuned yn rhan o'r gwaith o lunio'r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen.

Ychwanegodd Daniel: "Mae angen cyfle arnon ni i wneud y ffilm orau bosibl, a bydden ni’n hoffi ad-dalu’r gymuned am y gefnogaeth a gawson ni. Heb arian fydden ni ddim y gallu gwneud y ffilm rydyn ni’n angerddol dros ei gwneud, neu nid i’r safon uchel yr hoffen ni o leiaf, ac mae hynny’n bwysig wrth i ni fynd i gam nesaf ein datblygiad.

"Rydyn ni am i'n tîm a'r rhoddwyr fod yn gymuned lle maen nhw’n olrhain ein cynnydd. Mae'n hanfodol eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o'r profiad ac yn teimlo'r hyn rydyn ni’n ei deimlo. Rydyn ni’n croesawu hynny ac eisiau ei rannu. Pan fydd y ffilm derfynol wedi’i chwblhau, gobeithio y byddwn ni i gyd yn teimlo ein bod wedi cyfrannu at ei llwyddiant."

I gyfrannu at brosiectVanishing Act, ewch  i https://gofund.me/e9252de8

Myfyrwyr PDC sydd ynghlwm wrth wneud y ffilm:

Daniel Evans – Cynhyrchydd; Andreas Kyriakides – Cyfarwyddwr; Kacper Pilżys – Golygydd; Lloyd Hughes – Sinematograffydd; Jake Thompson – Awdur; Joel Williams – Recordydd Sain; Jodie Agius – Dylunydd Set; Ben Huw Tiley – Dylunydd Set; Jaynie Dunstan – Arlunydd Coluro; Molly Morgan – Props; Katie Ann Meeson – Props; Liam O' Brien – Gaffer; Alex David – ail CC