Wythnos Ffoaduriaid 2022 | Ida yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddilyn eu breuddwydion
22 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/Ida_Mirzaee_sanctuary_scholarship_MA_Animation_web.jpg)
I nodi Wythnos Ffoaduriaid 2022 (20-26 Mehefin), rydym yn siarad â myfyrwraig MA mewn Animeiddiad Ida Mirzaee, sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol De Cymru (PDC) i helpu gyda’i hastudiaethau. Cyrhaeddodd Ida Gymru gyntaf yn gynnar yn 2020, ar ôl ffoi o Iran o’i mamwlad. Yma, mae hi'n adrodd ei stori wrthym.
“Pan ddes i i Gymru gyntaf, yn fuan cyn y pandemig COVID-19, doedd gen i ddim ffrindiau, a doeddwn i ddim yn adnabod neb. Gwnaeth COVID-19 bethau hyd yn oed yn waeth.
“Y cam dysgu cyntaf a gymerais yng Nghymru oedd ymuno â’r dosbarthiadau Saesneg ar-lein a ddarparwyd gan athrawon gwirfoddol Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ystod y pandemig. Newidiodd cymryd rhan mewn gweithgaredd addysgol bopeth. Roedd y dosbarthiadau mor ddefnyddiol i mi ac wedi rhoi achubiaeth i mi yn ystod cyfnod anodd iawn.
“Ni allaf ddychmygu fy siwrnai ddysgu heb sôn am bwysigrwydd yr athrawon, y darlithwyr a’r cyd-ddisgyblion – yn enwedig yn ystod y cyfnod clod! Ar ôl mynychu dosbarthiadau Cyngor y Ffoaduriaid, dechreuais fynychu dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn fuan wedi hynny. Cododd y dosbarthiadau hynny fy hyder a chefais gyfle i gymdeithasu â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Datblygodd fy Saesneg ddigon fel fy mod wedi ennill ysgoloriaeth yn haf 2021 i astudio’r MA mewn Animeiddiad yn PDC.”
Creodd Ida y ffilm animeiddiedig hon a ddangoswyd mewn digwyddiad Wythnos Ffoaduriaid PDC ddydd Llun:
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/Ty%C3%8C%C2%82-Crawshay-_49783-(1).jpg)
“Mae bod yn berson sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn newid bywyd mewn gwirionedd – fel eich bod chi’n sefyll wrth ymyl ffordd brysur. Mae un ffordd yn arwain at weithio mewn bwyty neu ddosbarthu bwyd, y math o swydd nad oes angen y sgiliau neu'r cymwysterau sydd gennych. Gall gwneud y swyddi hyn, pan fyddwch chi'n gwybod bod gennych chi fwy i'w gynnig, arwain at broblemau iechyd meddwl gan eich bod chi'n teimlo nad ydych chi'n cael eich gwerthfawrogi ac nad ydych chi'n fawr o ddefnydd i gymdeithas.
“Fodd bynnag, i’r cyfeiriad arall, os ydych chi’n ffodus, gallwch chi ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad a datblygu gyrfa broffesiynol a bod yn ddefnyddiol i gymdeithas. Yn ffodus, mae ennill Ysgoloriaeth Noddfa PDC wedi golygu y gallaf ddilyn y cyfeiriad hwn - mae hyn wedi effeithio ar fy mywyd nawr, a’m cyfleoedd bywyd yn y dyfodol - yn aruthrol. Yn awr, y mae gobaith ar y ffordd hon, tra yn flaenorol doedd dim.
“Hoffwn ddweud bod popeth sydd gen i o ganlyniad i weithredoedd caredig, hyfryd sy’n ein derbyn ni fel ceiswyr lloches heb yn wybod i ni – athrawon, cyd-bobl sy’n ceisio lloches, ffrindiau newydd. Rwyf wedi llwyddo i ddod o hyd i wlad newydd, diwylliant newydd a bywyd newydd i mi fy hun trwy gymorth y bobl hyn.
“Oherwydd y profiad dysgu hwn, rwyf wedi addo y byddaf yn gwneud yr un peth yn fy mywyd. Addewais i mi fy hun y byddwn yn helpu eraill. Rwy'n gobeithio y gallaf ysbrydoli eraill i ddilyn eu breuddwydion os ydyn nhw am wneud swydd broffesiynol ac edrych am gyfleoedd i astudio neu hyfforddi yn y maes rydych chi ei eisiau. Credaf fod addysg yn cynnig gobaith yn y presennol a’r addewid o fywyd boddhaus, gwerth chweil yn y tymor hwy.”