Diwrnod Nyrsio Anabledd Dysgu | O’r cyfryngau cymdeithasol i gynhwysiant cymdeithasol

1 Tachwedd, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/LD_nurses_ccJbeh0.jpg

Rhiannon Richardson a Emma Hughes

Daeth dwy fyfyrwraig nyrsio, a gyfarfu ar y cyfryngau cymdeithasol a bondio yn sgil eu hangerdd dros nyrsio anabledd dysgu, yn ffrindiau da a gefnogodd ei gilydd trwy eu gyrfaoedd.

Roedd Emma Hughes o'r Coed Duon yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth ar-lein am nyrsio anabledd dysgu. A hithau eisoes wedi sicrhau lle ar y cwrs BSc (Anrhydedd) Nyrsio (Anableddau Dysgu) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), roedd hi am glywed am brofiadau go iawn myfyrwyr yn y maes.

"Mae'r maes gofal iechyd hwn yn gymharol fach o'i gymharu â nyrsio oedolion, er enghraifft. Roeddwn i’n chwilio am bobl i gysylltu â nhw oedd yn rhannu fy niddordeb. Chwiliais am  #learningdisabilitynursing ar Instagram a dyma ddod o hyd i gyfrif Rhiannon.

"Roeddwn i'n gallu gweld bod gyda ni lawer yn gyffredin, gan gynnwys bod y ddwy ohonon ni’n astudio yn PDC, felly anfonais i neges ati yn gofyn ambell gwestiwn am y cwrs a nyrsio anabledd dysgu yn gyffredinol. Roedd hi mor hyfryd a chymwynasgar," dywedodd.

Roedd Rhiannon Richardson o Benfro yn fwy na pharod i ateb cwestiynau Emma ac annog rhywun arall i ymuno â’r maes. Dywedodd: "Roeddwn i'n meddwl ei bod hi’n wych bod Emma yn estyn allan. Roedd yn bleser helpu a byddaf bob amser yn annog unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y maes gofal iechyd hwn."

Gwnaeth cynnig hael gan Rhiannon roi hwb i’w cyfeillgarwch. Dywedodd Emma: "Gofynnodd Rhiannon i fi gwrdd am goffi. Roedd hi'r un mor hyfryd mewn person, a phan gwrddon ni, fe roddodd ei gwerslyfrau i fi, oedd mor garedig. Er ei bod wedi cwblhau'r cwrs, ac wedi symud i ffwrdd, rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad.  Mae’n gyffrous gweld ei gyrfa’n datblygu."

Er bod y ddwy fyfyrwraig yr un mor angerddol dros y pwnc, rhesymau gwahanol oedd wrth wraidd eu penderfyniad i ddilyn y llwybr penodol hwn. Mae gan Emma fab yn ei arddegau sydd ag anableddau dysgu. Dywedodd: "Rwyf wedi cael cefnogaeth anhygoel dros y blynyddoedd. A dyma fi’n meddwl yr hoffwn ymuno â’r bobl ysbrydoledig hyn sydd eisiau cyfrannu’n gadarnhaol."

Mae Rhiannon yn cyfaddef bod elfen o hap a damwain i’w thaith hithau. Dywedodd: "Roeddwn i'n arfer gweithio gyda cheffylau, a dysgu marchogaeth i bobl ag anableddau. Syrthiais allan o gariad gyda gweithio ar y buarth, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau parhau mewn rôl gymorth. Cefais swydd yn gweithio gydag oedolion ag awtistiaeth, anawsterau dysgu, ac ymddygiadau heriol.

"Doeddwn i ddim mewn gwirionedd wedi clywed am nyrsio anabledd dysgu nes i fi ddigwydd cwrdd â nyrs anabledd dysgu cymunedol a tharo sgwrs. Roedd hi'n foment dyngedfennol i fi. Ymhen llai na mis, roeddwn wedi ymgeisio, wedi cael cyfweliad, ac wedi symud i Bontypridd i gychwyn darlithoedd.  Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gen i swydd mewn 'Tîm Ymyrraeth Gynnar'  sydd newydd ei ffurfio mewn cymuned yn y gorllewin."

Ychwanegodd: "Byddwn i'n fwy na pharod siarad gydag unrhyw un sydd eisiau bod yn nyrs anabledd dysgu ac sydd â chwestiynau. Mae'n swydd mor werth chweil, yn rhoi amser i bobl, eu helpu i ffynnu a chyrraedd cerrig milltir nad oedd efallai o fewn eu cyrraedd wythnosau neu fisoedd cyn hynny. "

Dywedodd Stacey Rees, Arweinydd y Cwrs: "Mae hyrwyddo gwaith nyrsio anabledd dysgu yn hanfodol i'r proffesiwn a dyna pam rydym yn nodi’r Diwrnod Nyrsio Anableddau Dysgu.  #

"Rwy'n falch iawn bod Emma a Rhiannon wedi dod i gysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol, a’u bod nhw mor angerddol dros ledaenu’r gair am eu gyrfa werth chweil."

I gael rhagor o wybodaeth am astudio nyrsio anableddau dysgu yn PDC ewch i: BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu) | Prifysgol De Cymru