PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus

29 Tachwedd, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/South_Wales_Argus_Business_Awards_2022_-_winners.JPG

Roedd yn bleser gan Brifysgol De Cymru gyd-noddi pumed Gwobrau Busnes blynyddol South Wales Argus, a gynhaliwyd ar Gampws Casnewydd PDC yr wythnos diwethaf.

Wedi’u cynnal gan y darlledwr a’r newyddiadurwr Mai Davies, roedd y gwobrau’n anrhydeddu rhai o’r cwmnïau a’r bobl fusnes gorau sydd gan Went i’w cynnig, gan gynnwys Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Premier Forest Products a Newport Transport, ymhlith llawer o rai eraill.

Roedd y seremoni, a noddwyd hefyd gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn cynnwys 14 categori gwobrau, gan gynnwys Busnes y Flwyddyn a Gwobr Cyflawniad Oes.

Am y rhestr lawn o enillwyr, gweler yr erthygl South Wales Argus.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, Dr Ben Calvert: “Rydym yn hynod falch o fod wedi noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. O’n campws yng nghanol Casnewydd, rydym yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch, gweithwyr busnes proffesiynol, athrawon, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion heddlu a llawer mwy.

“Mae partneriaethau diwydiant yn rhan o’n DNA sefydliadol, ac roeddem yn falch iawn o gael llawer o’n busnesau a’n partneriaid lleol yn y gwobrau, yn ymestyn ar draws diwydiant, y trydydd sector ac addysg. Mae ein Cyfnewidfa PDC yn gweithredu fel drws ffrynt i'r Brifysgol ar gyfer busnes lle gallwn ddarparu dadansoddiad personol a chymorth i gael mynediad at ein harbenigedd.

“Yn gynharach eleni, fe wnaethom hefyd agor Stiwdio Cychwyn Busnes Casnewydd, ein hail ddeorydd busnes i annog a chefnogi entrepreneuriaeth. Hoffwn ddweud diolch a llongyfarch yr holl fusnesau anhygoel a gydnabyddir yn y gwobrau hyn.”