Tad a mab yn herio Kilimanjaro ar gyfer Team Endeavour

28 Tachwedd, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Martin_and_Michael_Smith_Kilimanjaro.jpg

Mae myfyriwr graddedig a myfyriwr o Brifysgol De Cymru wedi dringo Mynydd Kilimanjaro – y mynydd annibynnol talaf yn Affrica – gan godi mwy na £8,500 at elusen.

Ymgymerodd Martin Smith, a raddiodd o’r Brifysgol yn 1991, a’i fab Michael, sy’n astudio MA mewn Ffilm Ddogfen, â’r her anferthol er budd Team Endeavour, elusen filwrol yn y DU sy’n codi arian ac ymwybyddiaeth i blant a theuluoedd y lluoedd arfog sy’n dioddef oherwydd caledi, salwch a thlodi.

Mae Martin wedi bod yn noddwr i’r elusen ers 2017, ac yn wreiddiol roedd wedi bwriadu herio Kilimanjaro yn 2020, cyn i bandemig COVID-19 ohirio’r her am ddwy flynedd.

Mae Michael yn dod i ddiwedd ei radd Meistr yn PDC, a phenderfynodd ffilmio rhaglen ddogfen o’r daith fel rhan o’i brosiect terfynol:

Teithiasant gyda grŵp bach o godwyr arian i Tanzania ar gyfer y daith, a’u gwelodd yn cychwyn ar lwybr pedwar diwrnod a hanner i'r copa (Uhuru Peak, 5895m) a diwrnod a hanner yn dringo yn ôl i lawr.

“Fe benderfynon ni wneud Llwybr Rongai, un o’r llwybrau cyflymach a mwy serth, oherwydd cyfyngiadau amser, a oedd yn golygu bod yr uchder yn ein taro’n galed iawn ac yn gwneud rhywfaint o’r ffilmio hyd yn oed yn fwy heriol,” meddai Michael.

“Roedd yn rhaid i ni gerdded yn araf iawn, iawn, ac yfed llawer o ddŵr i geisio ymgyfarwyddo. Yna bob nos, ar ôl i ni sefydlu gwersyll, byddem yn cerdded tua 300m yn uwch ac yn gwneud ychydig o ioga mynydd gydag ymarferion anadlu, a fyddai’n helpu i’n paratoi ar gyfer y diwrnod canlynol,” ychwanegodd Martin, a astudiodd BA (Anrh) Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

“Roedd yn anodd, a dweud y lleiaf, ond yn hynod werth chweil, ac mae codi swm mor wych i Team Endeavour yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y gwahaniaeth y gall yr elusen ei wneud i fywydau pobl, ac roedd gallu cwblhau’r her yn llwyddiannus gyda Michael yn fonws gwych!”

Gwyliwch ffilm Michael:

Placeholder Image 2