“Fe wnaethon ni wenu am y tro cyntaf ers i’r rhyfel ddechrau”: PDC yn rhoi gliniaduron a hwdis i brifysgol bartner yn Wcráin
16 Chwefror, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi rhoi gliniaduron a hwdis i’w phrifysgol bartner yn Wcráin – Academi Diwylliant Corfforol Gwladwriaeth Kharkiv – y dywed cydweithwyr iddynt wneud iddynt wenu “am y tro cyntaf ers i’r rhyfel ddechrau”.
Ers gefeillio â’r Academi yn 2022, anfonodd PDC lwyth o offer TG a hwdis wedi’u brandio i Kharkiv, sydd wedi cael ei daro’n arbennig o wael gan yr aflonyddwch yn Wcráin yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda’r nod o hybu morâl[GA1] ymhlith ei staff a’i myfyrwyr.
Dywedodd Yuliya Kovalenko, o’r adran Sinema a Theledu yn Academi Gwladwriaeth Kharkiv: “Ar ran y Rheithor [cyfwerth ag Is-Ganghellor yn y DU] a’r holl academyddion, hoffwn ddiolch i PDC am y rhoddion yr ydych wedi’u hanfon i ni.
"Roedd yn bleser i bob un ohonom dderbyn yr hwdis, ac a bod yn onest, am y tro cyntaf ers i’r rhyfel ddechrau, dyma ni’n ymgasglu a gwenu, gan chwerthin gyda’n gilydd, diolch i’ch rhoddion.”
Ychwanegodd Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC: “Rydym yn falch o fod yn gwneud yr hyn a allwn i gynnig cymorth ac undod i’n prifysgol bartner yn Wcráin, sef Academi Diwylliant Corfforol Gwladwriaeth Kharkiv.
"Mae'r seilwaith a'r cyfleusterau yno wedi dioddef yn fawr yn ystod goresgyniad Rwsia, a gobeithiwn, trwy anfon y llwyth cyntaf hwn o offer TG, y gall staff a myfyrwyr barhau i weithio ac astudio.
“Gobeithio y bydd academyddion o Kharkiv yn gallu ymweld â PDC y gwanwyn hwn er mwyn i staff o’r ddau sefydliad allu rhannu arfer da a dechrau cynllunio prosiectau i helpu i ailadeiladu ei seilwaith addysgol.”