Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi arwyddo cytundeb ffurfiol gydag Academi Diwylliant Corfforol Talaith Kharkiv, yn Wcráin, i gynnig cefnogaeth a dangos undod i academyddion a myfyrwyr yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro parhaus.
Mae PDC wedi ymuno â mwy na 70 o brifysgolion eraill ledled y DU sy’n partneru â sefydliadau yn Wcráin fel rhan o’r ymgyrch Twin For Hope, sy’n cael ei rhedeg gan Universities UK. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i hwyluso rhannu adnoddau a chefnogaeth mewn arwydd o gyfeillgarwch cyfunol o undod a cydgyfnewidiaeth i helpu sefydliadau Wcreineg, staff a myfyrwyr.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd PDC a'r Academi yn archwilio cydweithrediadau hirdymor sydd o fudd i'r ddwy ochr. Mae academyddion PDC ym maes Iechyd, Chwaraeon a Saesneg eisoes wedi dechrau rhannu arfer da ac mae ymdrechion bellach ar y gweill i wahodd academyddion a myfyrwyr o Kharkiv i ymweld â PDC yn 2023.
Mae PDC yn un o ddau sefydliad yn unig yng Nghymru i gael
statws Prifysgol Noddfa, ac mae eisoes wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â
Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu cyrsiau
Saesneg i ffoaduriaid o bob rhan o’r byd sy’n cael eu hadsefydlu yn y
fwrdeistref. Mae'r gwaith hwn wedi helpu staff i ddatblygu arbenigedd wrth
gyflwyno Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE) tra'n galluogi athrawon
dan hyfforddiant PDC i gael profiad o ddylunio a chyflwyno dosbarthiadau iaith.
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: “Rydym yn falch o fod yn gefeillio ag Academi Diwylliant Corfforol Talaith Kharkiv, a sefyll ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn Wcráin yn ystod cyfnod anhygoel o anodd i'r wlad. Nod y cytundeb hwn yw darparu cefnogaeth hirdymor tuag at ailadeiladu sector addysg uwch Wcráin, trwy greu perthnasoedd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Ychwanegodd Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC: “Trwy fod yn rhan o’r ymgyrch Twin for Hope, rydyn ni’n adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud i gefnogi ffoaduriaid yn ein cymuned. Yn ogystal â darparu cyrsiau iaith Saesneg i deuluoedd, rydym nawr yn ceisio ariannu ysgoloriaethau i gefnogi nifer o academyddion Wcreineg sydd wedi'u dadleoli i gwblhau eu hastudiaethau neu barhau â'u hymchwil yn y Brifysgol, fel rhan o'n menter Cymrodyr CARA (Cyngor Academyddion Mewn Perygl) pwrpasol. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn ychwanegol at y rhai a gynigiwn i bobl sy'n ceisio noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth o unrhyw wlad yn y byd.
“Mae PDC yn hynod falch o’i statws Prifysgol Noddfa, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Mae’r ymdrechion a wneir gan staff ar draws y Brifysgol i ddileu’r rhwystrau i astudio, ac i sicrhau diwylliant o groeso, perthyn a phosibilrwydd yn rhoi gobaith a dyfodol i’r myfyrwyr dan sylw. Ni ellir gorbwysleisio’r dadleuon moesol, moesegol, dyngarol ac economaidd dros sicrhau bod pobl sy’n ceisio noddfa yn cael mynediad i addysg.”
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022