Myfyriwr Therapi Cerdd yn ysbrydoli cyllid ar gyfer cartref nyrsio yng Nghasnewydd

15 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Music_Therapy_resized.jpg

Mae Rebecca Thomas, myfyriwr MA Therapi Cerdd blwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi bod ar leoliad gwaith yng nghartref nyrsio Capel Grange yng Nghasnewydd.

Wrth roi cyflwyniad yn ddiweddar yn 'Ein Llais, Ein Dewis, Ein Dinas – digwyddiad pleidleisio ar gyfer cyllideb gyfranogol', fe wnaeth hi helpu i sicrhau cyllid ar gyfer y cartref nyrsio. Ar ben hynny, gymaint oedd yr argraff a wnaeth ar gynrychiolydd un sefydliad oedd yn y  gynulleidfa nes iddyn nhw wahodd y prosiect i wneud cais am gyllid ganddyn nhw hefyd.

Yn gweithio gyda phreswylwyr y cartref nyrsio, sy’n eiddo i Linc Cymru, mae Rebecca’n creu sesiynau therapi cerdd ar gyfer unigolion a grwpiau.

"Mae gan bob sesiwn nod gwahanol," dywedodd.

"Gydag un grŵp, gallech chi fod yn canu gyda'ch gilydd i roi hwb i ryngweithio cymdeithasol a lleihau unigedd, ac i hyrwyddo ymdeimlad o gysylltiad rhwng preswylwyr a staff.

"Byddai sesiwn arall wedi'i chynllunio'n benodol i ysgogi a thrafod atgofion trwy wrando a chwarae cerddoriaeth fyw o wahanol fathau dros y blynyddoedd. Gall cerddoriaeth – gwrando arni neu ei chreu - fod o fudd i les mewn sawl ffordd."

Mae Rebecca wedi bod yn gerddor erioed ac mae'n angerddol dros ddefnyddio’i sgiliau, ynghyd â'i gwybodaeth therapiwtig, i helpu pobl. Dywedodd: "Alla i ddim gorbwysleisio cymaint o foddhad rwy’n ei gael o weld sesiwn therapi yn cael effaith ddofn ar berson. Weithiau mai sesiwn 45 munud yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun oherwydd mae cerddoriaeth yn ysgogi llawer o rannau’r ymennydd.  

"Weithiau, pan fydd teuluoedd yn ymuno mewn sesiwn gyda'u perthnasau sy'n byw gyda dementia difrifol, gall fod yr unig dro maen nhw’n teimlo bod ganddyn gysylltiad â’r person hwnnw yr wythnos honno.  Mae cerddoriaeth wedi ysgogi atgofion ac wedi lleihau effeithiau'r dementia dros y cyfnod hwnnw."

Gwahoddodd Linc Cymru Rebecca i roi enghraifft o sut beth yw sesiwn therapi cerdd mewn  digwyddiad ymgeisio am gyllid, gyda’r nod o sicrhau arian i ymestyn y prosiect a chyrraedd mwy o drigolion.

"Fe wnaethon nhw ofyn i fi ddangos beth rwy'n ei wneud gyda thrigolion oherwydd eu bod nhw'n teimlo y byddai hynny’n helpu'r gynulleidfa i ddeall manteision therapi cerdd. Roedd 25 o sefydliadau yn gwneud cais am gyllid y diwrnod hwnnw, felly roedd cryn bwysau arna i i wneud argraff mewn tri munud."

Sicrhaodd Cartref Nyrsio Capel Grange £1700, ar gyfer offerynnau newydd a thuag at ariannu goruchwyliaeth glinigol ar gyfer myfyrwyr fydd yn gweithio gyda phreswylwyr yn y dyfodol, gan ddod â budd felly i fyfyrwyr, i breswylwyr a'u teuluoedd, ac i staff y cartrefi nyrsio.

Cawson nhw wahoddiad hefyd gan sefydliad arall i wneud cais am gyllid pellach am fod y gwaith therapiwtig a'r gwahaniaeth y gall y lleoliadau gwaith hyn ei wneud i'r rhai sydd ei angen gymaint o argraff arnynt.

Dywedodd Karen Jeffreys, Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymuned Linc Cymru: "Dangosodd Rebecca yr effaith y gall yr ymyrraeth glinigol seicolegol hon ei chael. O fewn 30 eiliad roedd y gynulleidfa’n llawn cyffro - roedd fel petai therapi cerdd yn ein cyrraedd ni i gyd.  

"Roedd cael ein gwahodd i ymestyn y prosiect drwy gymorth gan sefydliad arall yn gwbl wych, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd eu cefnogaeth i ni, ond yn enwedig i'r Rebecca ryfeddol a'i chyfranogwyr ar y llwyfan."

Dywedodd Dr Elizabeth Coombes, Uwch Ddarlithydd Therapi Cerdd: "Mae'r bartneriaeth newydd hon gyda Linc Cymru yn cynnig cyfle i bedwar myfyriwr MA Therapi Cerdd gyflwyno  manteision therapi cerdd i breswylwyr, eu teuluoedd a staff.

"Mae sylfaen dystiolaeth gref dros werth therapi cerdd i bobl hŷn a phobl sy'n byw gyda dementia. Gwnaeth cyflwyniad gwych Rebecca, tîm Linc Cymru, a'r trigolion, argraff fawr ac fe ddangoson nhw’n glir cystal y mae gwaith caled myfyrwyr PDC yn cyfrannu at ein cymunedau. Hir y parhao."