PDC yn ffurfio partneriaeth â de Novo Solutions i lansio Prentisiaeth Gradd Technoleg Ddigidol
10 Chwefror, 2023
Mae cwmni technoleg arloesol wedi ffurfio partneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru (PDC) i ddarparu Cynllun Prentisiaeth Gradd arloesol i bobl ifanc ledled de Cymru sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes technoleg ddigidol.
Wedi'i lansio'n swyddogol yn 2021, mae de Novo Solutions yn ymgynghorwyr technoleg ddigidol BBaCh yn Langstone sy’n gweithio yn yr economi brofiad ac mae wedi 'ail-ddychmygu byd gwaith' drwy ddarparu profiadau personol wedi eu gyrru gan ddata, yn hytrach na phrosesau busnes safonol, gan ddefnyddio technolegau Oracle SaaS Cloud a ServiceNow.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, mae de Novo Solutions yn ymrwymedig at gynnig cyfle i bobl ifanc 'ddysgu wrth ennill cyflog' drwy gynllun prentisiaeth gradd, fydd yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr iddynt i dechnoleg ymgynghori – yn amrywio o fewnwelediad i'r dechnoleg ddiweddaraf a'r 'economi brofiad', hyd at ddeall dadansoddeg a systemau busnes cefn swyddfa.
Ochr yn ochr â'u profiad gwaith gyda thîm de Novo Solutions, bydd y Prentisiaid hefyd yn gallu sicrhau gradd mewn Datrysiadau Digidol a Thechnoleg, fydd yn eu galluogi i ennill y profiad a'r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo a datblygu yn y gweithle.
Dywedodd Mark Sweeny, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol de Novo Solutions: "Fe wnaethon ni sefydlu de Novo Solutions gyda gweledigaeth glir i darfu ar ddulliau ymgynghori digidol traddodiadol a chreu gofod i ni’n hunain yn yr economi brofiad.
"Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig, fel rhan o'n twf a'n datblygiad dros y blynyddoedd nesaf – yn enwedig yn ne Cymru – i ni helpu hyfforddiant a datblygiad gweithwyr proffesiynol ifanc, uchelgeisiol yn y maes technoleg o fewn y gymuned leol. Byddan nhw felly’n gallu cael golwg gwerthfawr ar y sector dechnoleg gyda’n uwch dîm arwain, a byddan nhw hefyd yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth adeiladu brand de Novo; a chael gradd brifysgol werthfawr ar yr un pryd.
"Rydyn ni, felly, yn llawn cyffro o allu cyhoeddi ein partneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein Prentisiaid Gradd newydd i'r busnes o fis Medi ymlaen."
Dywedodd Louise Hawker, Rheolwr Academi Broffesiynol PDC: "Mae Prifysgol De Cymru yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio mewn partneriaeth gyda de Novo Solutions, a chynnig cyfleoedd Prentisiaeth Graddau Digidol i geisio denu talentau ifanc yn ne Cymru i ddatblygu gyrfa gyffrous yn y sector technoleg. Bydd y Prentisiaid yn cyfuno dysgu yn y gwaith yn de Novo Solutions ac astudio gradd BSc (Anrh) Datrysiadau Digidol a Thechnoleg ym Mhrifysgol De Cymru, fydd yn eu galluogi i ennill tra byddan nhw'n dysgu."
De Novo Solutions yw’r unig fusnes technoleg sy’n cyfuno arbenigedd technolegau cwmwl ServiceNow ac Oracle Software-as-a-Service [SaaS], ac maent yn ymroddedig at ychwanegu gwerth sylweddol i'r sector preifat a chyhoeddus. Maen nhw eisoes yn gweithio gyda sefydliadau Llywodraethau Canolog a Lleol ac Addysg Uwchradd.
Mae'r cynllun prentisiaethau gradd sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn galluogi prentisiaid i rannu eu hamser rhwng astudio yn y brifysgol a'r gweithle, gan roi cyfle i fyfyrwyr ennill cyflog a chwblhau gradd baglor lawn ar yr un pryd.