Prosiect sgrin a arweinir gan PDC yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru

9 Chwefror, 2023

A group of students film inside a USW studio at Cardiff Creative Campus with ambient lighting

Mae Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru wedi derbyn cyfran o £1.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ei phrosiect Academi Sgrin Cymru, a fydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent Cymreig i ffynnu yn y diwydiant sgrin.

Wedi’i arwain gan PDC mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Chynghrair Sgrin Cymru, bydd y prosiect yn creu tair Academi Sgrin newydd y tu mewn i Greatpoint Studios o Gaerdydd, Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Aria Studios ar Ynys Môn, i ddarparu’r sgiliau, addysg a hyfforddiant i bobl eu dilyn gyrfa ym myd ffilm a theledu.

Bydd y Gronfa Sgiliau Creadigol yn cefnogi 17 o brosiectau a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion sgiliau tri sector blaenoriaeth – cerddoriaeth, cynnwys digidol a sgrin – yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried yr anghenion hirdymor a fydd yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod â sector creadigol ffyniannus.

Dywedodd Huw Swayne, Deon Cyswllt ar gyfer Partneriaethau a Datblygu Busnes yn PDC: “Mae Academïau Sgiliau Cymru yn brosiect arloesol ar gyfer Cymru gyfan sy’n gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu llwybrau i ymuno â diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru sydd wedi gweld cryn gynnydd, gan ddarparu profiadau byd go iawn drwy weithdai, lleoliadau gwaith a gwaith maes.

“Ein nod yw adeiladau capasiti a hirhoedledd mewn gweithlu cynaliadwy sy’n denu’r bobl fwyaf talentog ac yn defnyddio’r cyfleusterau gorau yng Nghymru, gan weithio ac ennill mewn marchnad fyd-eang. Mae Prifysgol De Cymru, Screen Alliance Wales a Phrifysgol Bangor yn falch o gael y cyfle I weithio gyda Cymru Greadigol i gyflawni’r fenter gyffrous hon.”

Ychwanegodd Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr Screen Alliance Wales: “Mae’n bleser gennyn ni weithio gyda’n partneriaid hirdymor, PDC, ar y fenter hon, ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor a Cymru Creadigol. Mae cael y cyfle i ehangu’r gwaith rydyn ni eisoes yn ei wneud gyda’n gilydd, drwy fod yn rhan o brosiect Academi Sgiliau Cymru, yn destun cryn gyffro inni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu a meithrin y dalent yng Nghymru ymhellach byth.”

Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor: “Mae Academïau Sgrin Cymru wedi’i sefydlu i wella’n uniongyrchol y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae datblygu’r dalent gorau gyda’r sgiliau proffesiynol priodol a darparu cyfleoedd yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn greiddiol i’n cenhadaeth fel prifysgol, ac mae creu cynnwys bellach yn ddiwydiant byd-eang sy’n cynnig cyfleoedd enfawr i’n myfyrwyr yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Mae'r diwydiannau creadigol yn un o rannau economi Cymru sydd wedi bod yn tyfu gyflymaf ers bron i ddegawd, gan greu swyddi a chyfoeth, cyfrannu at frand cenedlaethol cryf a hyrwyddo Cymru ledled y byd. Er mwyn bodloni'r galw, rydyn ni wedi tynnu sylw at yr angen i ddatblygu'r sgiliau cywir ar draws y sector i gefnogi twf parhaus.

“Diben y gronfa hon yw parhau i gefnogi partneriaethau sgiliau strategol ledled Cymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu dyfarnu'r cyllid i brosiectau cydweithredol a fydd yn darparu cyfleodd gwych ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector neu sydd am weithio yn y sector o bob cefndir.”