Hanesion Graddio | “Rydw i eisiau dangos yr harddwch mewn Byddardod”

21 Gorffennaf, 2023

Mareah Ali

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Ganwyd Mareah Ali yn hollol fyddar, ac roedd yn swil iawn wrth dyfu i fyny.

Nawr, wrth iddi raddio o Brifysgol De Cymru gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffotograffiaeth, mae'n dweud bod y profiad wedi ei helpu i ddod yn hyderus ac yn annibynnol am y tro cyntaf.

Cefnogwyd y ferch 21 oed, o’r Rhath, gan uned arbenigol ar gyfer plant â nam ar eu clyw yn yr ysgol gynradd ac yn Ysgol Uwchradd Llanisien, oedd yn caniatáu iddi aros mewn addysg brif ffrwd.

Ar ôl defnyddio cymhorthion clyw yn blentyn ifanc iawn, cafodd Mareah fewnblaniad yn y cochlea wedi’i osod yn bump oed, ac roedd angen therapi lleferydd ac iaith arni i’w helpu i ailddysgu sut i siarad.

“Roeddwn i’n ffodus fy mod wedi bod yn y gofod cefnogol hwnnw erioed – nid bob plentyn Byddar sydd wedi profi hynny,” meddai.

“Ond roedd yn golygu fy mod yn ddibynnol ar y staff addysgu i fy helpu gyda phopeth, ac nid tan i mi adael y chweched dosbarth yn 18 oed y sylweddolais fod angen i mi ennill rhywfaint o annibyniaeth.”

I ddechrau, ystyriodd Mareah gymryd blwyddyn allan ar ôl gadael yr ysgol, yna tarodd pandemig COVID-19 ac atal ei chynlluniau.

Ar ôl mynychu Diwrnod Agored PDC a’r cyrsiau a’r cyfleusterau diwydiannau creadigol a oedd ar gael yn creu argraff arni, penderfynodd wneud cais am BA (Anrh) Ffotograffiaeth.

“Roedd ffotograffiaeth wedi bod yn hobi erioed; Doeddwn i ddim wedi meddwl dod yn ffotograffydd proffesiynol,” meddai Mareah. “Ond pan welais faint o gyfleoedd oedd ar gael yn PDC, es i amdani, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny.”

Gan ddechrau ei hastudiaethau ym mis Medi 2020, roedd Mareah ymhlith miloedd o fyfyrwyr i fynychu darlithoedd ar-lein, oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn eu lle ar y pryd - a oedd yn ffordd anodd o ddechrau bywyd myfyriwr.

“Roedd y flwyddyn gyntaf yn anodd iawn i mi, i’r pwynt lle roeddwn i wir yn ystyried rhoi’r gorau iddi,” meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn gwbl barod am gam mor fawr, o’r ysgol i’r Brifysgol, felly cefais banig a darbwyllo fy hun fy mod wedi gwneud y penderfyniad anghywir.

“Ond fe wnes i siarad gyda fy rhieni ac un o’r darlithwyr, ac roedden nhw mor barod i helpu, gan ofyn beth y gallen nhw ei wneud i fy helpu i oresgyn y panig hwnnw. Fe wnaethon nhw awgrymu i mi fynd yn ôl am fy ail flwyddyn, a gwneud penderfyniad ar ôl y tymor cyntaf a oeddwn yn dal i fod eisiau gadael, newid cwrs neu barhau. Roedd eu hanogaeth i ddal ati yn golygu'r byd i mi.

“Y peth anoddaf am ddechrau’r cwrs yn ystod y pandemig, fodd bynnag, oedd diffyg cyfle i gymysgu rhyw lawer gyda’m cyd-fyfyrwyr, gan fy mod i bob amser wedi cael trafferth rhoi fy hun allan yna a gwneud ffrindiau. Ond mae hynny wedi gwella gydag amser; yr wyf wedi dod yn llawer mwy hyderus yn ystod fy mlwyddyn olaf, gallwn ddod i adnabod pobl yng ngweddill y garfan ac rydym wedi dod yn ffrindiau agos iawn.”

Yn ystod ei hail flwyddyn, roedd Mareah yn wynebu cysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant i drefnu lleoliad gwaith - rhywbeth a oedd yn gwbl y tu allan i’w pharth cysur.

“Gwyddwn fy mod i’n caru ffotograffiaeth ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau o ran cynllunio gyrfa,” meddai.

“Felly meddyliais am fy myddardod, a faint yr hoffwn i siarad â phobl yn y gymuned fyddar.

“Deuthum o hyd i gwmni theatr o’r enw Taking Flight, sy’n gymuned gynhwysol i bobl ag anableddau. Cyfarfûm â nhw ar-lein a gwnaethom gyfathrebu gan ddefnyddio iaith arwyddion, a aeth â mi yn ôl yn syth at yr hyn yr oeddwn yn arfer bod yn rhan ohono pan oeddwn yn iau.

“Roeddwn i’n gyffrous i ddod i’w hadnabod. Es i draw i dynnu lluniau o'u sioeau, a meithrin perthynas wych gyda nhw. Doeddwn i wir ddim yn meddwl y byddai fy ansicrwydd wedi gwneud hynny’n bosibl, felly rwy’n falch ohonof fy hun am estyn allan atyn nhw.”

Cyfarfu Mareah hefyd â Jonny Cotsen, actor byddar wedi’i leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, a oedd yn trefnu digwyddiad Deaf Together i arddangos lleisiau creadigol pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ar draws y DU.

“Roedd y digwyddiad Deaf Together yn brofiad gwych i fod yn rhan ohono, oherwydd cefais gyfle i gwrdd â llawer o bobl yn y gymuned a chael fy ysbrydoli gan eu perfformiadau. Roedd yn ofod diogel mewn ffordd, gan fy mod i ymhlith cymaint o bobl eraill yn union fel fi.”

"PENDERFYNAIS GREU CYNRYCHIOLAETH O FYDDARDOD TRWY FFOTOGRAFFIAETH"

Mareah Ali

Graddedig Ffotograffiaeth a crëwr 'Now You See Me'

A cutout of Mareah Ali smiling at the camera

Ar gyfer ei phrosiect blwyddyn olaf, cafodd Mareah ei hysbrydoli gan arddangosfa Deaf Mosaic y ffotograffydd Byddar Stephen Iliffe, sy’n cynnwys portreadau o bobl Fyddar ar draws y DU ac yn adrodd eu storïau.

“Penderfynais greu cynrychiolaeth o Fyddardod trwy ffotograffiaeth,” meddai Mareah. “Mae byddardod yn harddwch ynddo’i hun, ac roeddwn i eisiau gwneud iaith arwyddion yn fwy artistig a cherfluniol, tra’n defnyddio delweddau i addysgu, gan ei bod yn iaith yn ei rhinwedd ei hun.”

Mae gwaith Mareah, o’r enw Now You See Me, yn gyfres o ddelweddau du a gwyn o ddwylo yn cyfleu gwahanol lythrennau a geiriau yn Iaith Arwyddion Prydain yn ogystal â phortreadau o bobl Fyddar yn gwisgo cymhorthion clyw a phroseswyr lleferydd.

“Roeddwn i eisiau dangos sut olwg sydd ar bobl â Byddardod,” meddai. “Rwy’n Fwslimaidd ac yn gwisgo hijab, felly nid yw’n amlwg ar unwaith fy mod yn Fyddar. Yna pan fyddaf yn dechrau siarad, mae pobl yn synnu ac yn dweud wrthyf, 'O!, dydych chi ddim yn edrych fel rhywun sy’n Fyddar' neu 'rydych chi'n siarad yn dda iawn o ystyried eich bod yn berson Byddar,' a olygir fel canmoliaeth, ond nid yw bob amser yn cael ei dderbyn yn y ffordd honno.

“Rwy’n berson hollol wahanol nawr, na phan ddechreuais yn y brifysgol. Ar ôl graddio rwy’n ystyried mynd i deithio – o bosibl dod o hyd i gymunedau Byddar yn rhyngwladol i ddod i adnabod pobl mewn gwledydd eraill ac adeiladu rhwydweithiau. Byddai hynny wedi bod allan o fy nghyrraedd yn llwyr rai blynyddoedd yn ôl.

“Mae astudio yn PDC wedi fy helpu i ddod o hyd i fy llais eto. Rwy’n falch o fod yn Fyddar ac yn teimlo’n barod i oresgyn unrhyw rwystrau a ddaw yn fy ffordd i.”