Llysgennad y Swistir yn y DU yn ymweld â PDC

3 Gorffennaf, 2023

swiss_ambassador_image.JPG

Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) y Llysgennad Addysg Uwch Markus Leitner, Llysgennad y Swistir i'r Deyrnas Unedig, i'w Champws yng Nglyn-taf ar ddydd Mercher 28 Mehefin.

Gyda’r Llysgennad roedd Jeremie Bron, Cwnselydd yn Llysgenhadaeth y Swistir (Dirprwy Bennaeth yr Economi a Chyllid) a Marlies Hoecherl, Conswl Anrhydeddus y Swistir yng Nghymru.

Dyma oedd ail ymweliad swyddogol y Llysgennad â Chymru, yn dilyn ymweliad y llynedd pan archwiliwyd synergeddau ym maes gwyddorau bywyd. Yn ystod yr ymweliad hwn, cyfarfu'r Llysgennad â chwmnïau a sefydliadau allweddol yn y Gwyddorau Bywyd, gan gynnwys PDC.

Cyfarfu'r Llysgennad ag aelodau o'r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg a roddodd gyflwyniad ar y Gwyddorau Bywyd yn PDC, yn ogystal â thaith o amgylch yr ystafell efelychiadau clinigol a chanolfan efelychu Hydra.

Cafodd y Llysgennad drafodaeth gydag aelodau'r Gyfadran am feysydd cydweithredu posibl ym maes Gwyddorau Bywyd.

Dywedodd Dr James Gravelle, Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg: "Roedd yn bleser croesawu y Llysgennad Addysg Uwch Markus Leitner, i'r Brifysgol i weld sut mae myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gofal iechyd gyda ni yn elwa o'r cyfleusterau yn ein hystafell efelychu glinigol.

Mae cryfhau cysylltiadau addysgol a diwylliannol yn dod â gwledydd yn agosach at ei gilydd. Roedd trafodaethau'n gynhyrchiol ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio a chydweithrediadau posibl."