PDC yn ysbrydoli athrawon cyfrwng Cymraeg y dyfodol

6 Gorffennaf, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Welsh_medium_schools_event_1_resized_D7pcaXj.jpg

Trefnodd Prifysgol De Cymru (PDC) ddigwyddiad i gyflwyno plant ysgolion cyfun i yrfa mewn addysgu cyfrwng Cymraeg.

Wedi’i ariannu gan Addysgwyr Cymru, roedd y digwyddiad ‘Diwrnod ym mywyd athro ysgol gynradd’ yn cynnwys myfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Casnewydd i gwrdd â rhai disgyblion oed cynradd.

Cafodd y myfyrwyr hŷn daith o amgylch yr ysgol, arsylwi dosbarth, a chymryd rhan mewn gweithdai lle buont yn trafod beth sy'n gwneud athro cynradd da. Cawsant hefyd beth profiad ymarferol lle buont yn addysgu rhywfaint o glocsio Cymraeg i'r plant iau.

Dywedodd Phoebe, o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, “Fe wnes i fwynhau’n fawr dysgu clocsio i’r plant yn ein grŵp. Rwy'n ystyried astudio i fod yn athrawes pan fyddaf yn gadael yr ysgol. Rwy’n teimlo’n gryf am addysgu yn Gymraeg oherwydd bod gan oedolion Cymraeg eu hiaith well cyfleoedd gwaith.”

Dywedodd Lisa Taylor, Cyfarwyddwr Addysg PDC: “Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun 10 mlynedd i gynyddu’r gweithlu addysg sy’n siarad Cymraeg, y mae PDC yn ei gefnogi’n llawn trwy gael cyrsiau addysgu cyfrwng Cymraeg BA a TAR a thrwy hyrwyddo addysgu cyfrwng Cymraeg fel gyrfa ar bob cyfle. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad fel hwn mewn ysgol gynradd ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Dywedodd disgyblion Blwyddyn 10 eu bod wedi mwynhau dysgu sgil newydd gyda’r disgyblion iau gan ei fod yn gwneud dysgu’n hwyl!”

Dywedodd Luc Rasmussen, o Addysgwyr Cymru: “Roeddwn i wrth fy modd i fod yma yn cefnogi’r digwyddiad hwn heddiw gyda Phartneriaeth PDC i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Yn Addysgwyr Cymru rydym yn darparu gwasanaeth cynghori a chymorth i'r rhai sy'n ystyried gyrfa mewn addysg, yn ogystal ag ymarferwyr presennol. Rydym yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi recriwtio yn y gweithlu cyfrwng Cymraeg.”