Ysgol haf yn rhoi blas i ddisgyblion ar fywyd prifysgol
26 Gorffennaf, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) 35 o fyfyrwyr i’w Champws yn Nhrefforest y mis hwn ar gyfer cwrs preswyl dros nos fel rhan o Ysgol Haf PDC ac Ymgyrraedd yn Ehangach.
Roedd y digwyddiad yn rhad ac am ddim a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 o ysgolion a cholegau ar draws y DU gael profiad dilys o fywyd prifysgol. Fe'i cynlluniwyd yn benodol i gefnogi darpar fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddilyniant addysgol ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch.
O weithgareddau cymdeithasol, aros mewn Neuaddau Preswyl, a chwrdd â myfyrwyr eraill o'r un anian, mwynhaodd y myfyrwyr y profiad trochi. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiynau pwnc-benodol a chael cyngor a gwybodaeth bwysig.
Roedd llysgenhadon brwdfrydig PDC hefyd wrth law drwy gydol y cwrs preswyl i sgwrsio â’r myfyrwyr, gan roi cipolwg ar fywyd fel myfyriwr yn PDC.
Nod yr Ysgol Haf oedd helpu myfyrwyr i gwblhau eu ffurflenni cais UCAS a'u gosod ar wahân i fyfyrwyr eraill trwy ddangos ymrwymiad i astudiaeth allgyrsiol.
Roedd PDC ac Ymgyrraedd yn Ehangach hefyd yn gobeithio y byddent yn gallu ffurfio cysylltiadau â darpar fyfyrwyr a allai fod angen gwasanaethau cymorth y Brifysgol, megis y Gwasanaeth Anabledd a Lles, Gwasanaethau Dysgu, a Llety.
Bydd pawb sy’n mynychu’r Ysgol Haf sy’n cofrestru ar gwrs gradd israddedig 3 neu 4 blynedd amser llawn yn PDC ym mis Medi 2024 yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Ysgol Haf PDC. Mae'r fwrsariaeth yn werth £500 a bydd yn anelu at gefnogi myfyrwyr gyda thechnoleg neu ddeunyddiau a chostau cwrs eraill.
Daeth yr Ysgol Haf at ei gilydd diolch i ymdrechion gan wahanol adrannau yn PDC a’r tîm Ymgyrraedd yn Ehangach, yn enwedig Gwasanaethau Myfyrwyr, y tîm Recriwtio Myfyrwyr yn Myfyrwyr y Dyfodol, Arlwyo ac Ystadau, a Chynadledda a Digwyddiadau.