Helpu pobl ifanc i ddechrau gyrfaoedd gofal iechyd

25 Hydref, 2023

Coleg Nyrsio Brenhinol

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi partneru i gefnogi cynllun sy'n galluogi dysgwyr ifanc, yn Ne Cymru, i gael mynediad at brofiad o weithio mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae Cynllun Cadetiaid Tywysog Cymru’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn rhaglen sefydledig sy'n cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd mewn rolau nyrsio a gofal iechyd.

Dechreuodd y Cynllun Cadetiaid gyda chynllun treialu yn 2019, cyn iddo gael ei ehangu ledled Cymru, yna yn ddiweddarach ar draws Lloegr a'r Alban ac mae'n lansio eleni yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r cynllun yn rhedeg mewn partneriaeth â darparwyr addysg a sefydliadau ieuenctid ochr yn ochr â'u hamserlen gweithgaredd arferol, gan gyfuno dysgu dan arweiniad, ar-lein a drwy brofiad. Mae hyn yn cynnwys modiwlau dysgu a lleoliad gwaith clinigol arsylwol yn eu rhanbarth gofal iechyd lleol.

Ar ôl iddynt gwblhau hyn, mae cadetiaid yn cyflwyno portffolio adfyfyriol ac yn ennill tystysgrif gwblhau. Yna cânt eu cefnogi i wneud penderfyniadau ar y camau nesaf, a all gynnwys diploma lefel 2 neu 3, gradd sylfaen, neu radd nyrsio israddedig.

Bydd cyllid PDC ac AaGIC yn talu am un garfan yng Ngholeg Gwent, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Choleg y Cymoedd.

Mae Fleur Jenkins, Cadét RCN, wedi sicrhau lle i astudio BSc (Anrh) Bydwreigiaeth yn PDC: "Rhoddodd y Cynllun Cadetiaid gyfle i mi uwchsgilio fy ngwybodaeth flaenorol o fy nghwrs coleg. Mae'r hyfforddiant a fynychais ar gyfer cymorth bywyd sylfaenol wedi rhoi'r hyder i mi deimlo'n barod mewn sefyllfa ymateb cyflym. Mae wedi fy helpu i barhau ar fy nhaith i ddod yn Fydwraig gymwys'.

Dywedodd yr Athro Dave Clarke, Pennaeth Cynllun Nyrsio Cadetiaid Tywysog Cymru RCN: "Rydym yn hynod falch o lwyddiant y cynllun. Mewn gwirionedd, mae gennym garreg filltir eleni gyda'n myfyriwr graddedig cyntaf a ddechreuodd ei yrfa gofal iechyd gyda ni.

"Mae'n gyffrous iawn gweithio gyda cholegau addysg bellach, helpu myfyrwyr i gadarnhau eu penderfyniadau gyrfa a gwneud dewisiadau da ar gyfer eu dyfodol, boed hynny'n parhau mewn addysg bellach, neu gwblhau cais UCAS, gan eu helpu i sefyll allan pan fyddant yn gwneud cais ar gyfer addysg uwch.

"Rydyn ni'n eu cael nhw i feddwl am gyfleoedd gyrfa ac arweinyddiaeth ac yn eu hannog i edrych ar y 350 o yrfaoedd sydd ar gael yn y GIG, rhai clinigol ac anghlinigol."

Dywedodd Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol: "Mae AaGIC yn falch o barhau i gefnogi'r rhaglen ragorol hon sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth a pharatoi ar gyfer gyrfa bosibl ym maes iechyd a gofal yn y dyfodol."

Dywedodd Dr Ian Mathieson, Deon Cyswllt, Partneriaethau a Datblygu Busnes (Iechyd a Gofal Cymdeithasol): "'Rydym yn falch iawn o gefnogi'r cynllun Cadetiaid. Mae'n fenter ardderchog, sy'n rhoi golwg fewnol ar ofal iechyd i gyfranogwyr, ac yn cynnig persbectif gwahanol sy'n rhoi hyder iddynt wrth gymryd y cam nesaf i addysg uwch."