Is-Ganghellor yn croesawu dirprwyaeth o Faleisia ar gampws Caerdydd
10 Hydref, 2023
Ar 5 Hydref 2023, ymwelodd dirprwyaeth yn cynrychioli prifysgolion Maleisia â champws Caerdydd a chwrddodd â chydweithwyr o dîm Swyddfa Weithredol a Ryngwladol Prifysgol De Cymru.
Wedi’i threfnu gan Raglen Cyfoethogi Cydweithrediad mewn Addysg Uwch rhwng Faleisia a’r Deyrnas Unedig (MY-UK HECEP), eu ffocws yw dod â sefydliadau o Faleisia a Chymru at ei gilydd i gyfnewid arferion gorau ym maes rhyngwladoli addysg uwch a hwyluso cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Yn ystod eu hymweliad, rhoddodd cydweithwyr o Brifysgol De Cymru gyflwyniad ar ‘ryngwladoli 2030’, menter ac ymgysylltu, ac ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru. Yna fe ddechreuon nhw drafodaethau bord gron i ystyried cyfleoedd partneriaeth a chydweithio.
Yn ystod eu hymweliad pedwar diwrnod, fe wnaeth cynrychiolwyr o Faleisia hefyd gwrdd â Phrifysgolion Cymru Rhyngwladol, Taith, Cyngor Prydeinig Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam ac ymweld â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-ganghellor: “Roeddem yn falch iawn o groesawu’r grŵp ac arddangos ein cyfleusterau yng Nghaerdydd. Cawsom rai trafodaethau cynhyrchiol, gan rannu gwybodaeth a phrofiad ar y cyd, a nodi cyfleoedd i gydweithio, yn enwedig mewn ymchwil a rhaglenni cydweithredol.
“Partneriaethau a chydweithio yw enaid PDC. Diolch i'r tîm rhyngwladol am ddod â'r digwyddiad pwysig hwn at ei gilydd. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn gymryd camau breision i ddyfnhau perthnasoedd rhyngwladol a chyflawni ein strategaeth 2030.”