Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia | PDC yn dathlu degawd gyda phartner addysgol nodedig

4 Hydref, 2023

Gweithio wrth ddesg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn dathlu partneriaeth 10 mlynedd gydag Academi Cymdeithas Dyslecsia Singapore (DAS), arweinydd rhyngwladol ym maes Anghenion Addysgol Arbennig (SEN) ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN).

Mae Academi DAS yn sefydliad nid-er-elw ac yn Sefydliad Addysg Breifat (PEI) sydd wedi'i gofrestru gyda'r Pwyllgor Addysg Breifat (CPE), asiantaeth o dan SkillsFuture Singapore (SSG). Yn flaenorol yn gangen gwasanaethau hyfforddiant Cymdeithas Dyslecsia Singapore, cafodd Academi DAS ei hymgorffori yn swyddogol yn 2010 i ddarparu gwasanaethau hyfforddiant i rieni, gofalwyr ac addysgwyr er mwyn eu paratoi’n dda i gefnogi dysgwyr â dyslecsia ac Anghenion Addysgol Arbennig eraill sy'n aml yn cyd-ddigwydd (SEN).

Mae DAS hefyd yn darparu fersiwn gyfatebol o un o gyrsiau addysg ôl-raddedig PDC, MA SEN/ALN (Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r cwrs ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae anawsterau gyda dysgu neu ymddygiad yn effeithio ar eu datblygiad. Hyd yma, mae 136 o Dystysgrifau Ôl-raddedig, 11 o Ddiplomâu Ôl-raddedig a 31 o raddedigion Meistr yn y Celfyddydau wedi dod o’r rhaglen gydweithredol, gyda phob un wedi’u paratoi i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau'r rhai y maent yn eu gwasanaethu.

Mae rhaglen Academi DAS, a gynhaliwyd o Singapore, wedi profi i fod yn esiampl ddisglair o arferion addysgol cynhwysol wedi'u teilwra i'r cyd-destun Asiaidd. Trwy uno amgylcheddau addysgol sy'n cyflawni’n wych, dod ag arferion o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth o'r Dwyrain a'r Gorllewin ynghyd, mae wedi codi'r bar ar gyfer addysg SEN/ALN yn y rhanbarth ac yn denu myfyrwyr o Tsieina, Ynysoedd Philippines, Malaysia, Saudi Arabia, a nifer o wledydd eraill.

Dros y degawd diwethaf, mae'r bartneriaeth hon wedi'i farcio gan arloesedd, ymroddiad, ac ymrwymiad a rennir i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac addysg dyslecsia. Wrth edrych ymlaen, mae PDC ac Academi DAS ar fin adeiladu ar y sylfaen anhygoel hon, gan archwilio gorwelion newydd mewn addysg SEN/ALN a pharhau i fod yn eiriolwyr dros ymwybyddiaeth dyslecsia ar y llwyfan byd-eang.

Dywedodd Dr June Siew, Pennaeth Academi DAS: "Rydym yn falch o bartneru gyda PDC, sydd wedi hen ymsefydlu mewn ymarferion SEN ac sy'n cynnig fframwaith SEN cryf sy’n gadarn yn addysgegol. Pan ddechreuodd y bartneriaeth, roedd Singapore yn newydd-ddyfodiad i gynhwysiant. Roedd angen llais awdurdodol arnom yn SEN ac fe ddaethom ni o hyd i hynny yn PDC."

Dywedodd Dr Matthew Hutt, Pennaeth Dysgo Proffesiynol mewn Addysg PDC: "Y bartneriaeth gyda DAS yw ein partneriaeth addysgol fwyaf a mwyaf arwyddocaol. Yn fewnol, mae ein partneriaeth â DAS yn aml yn cael ei ddyfynnu fel enghraifft o bartneriaeth hirdymor, lwyddiannus.

"Mae Singapore yn cael ei hedmygu am ei system addysgol arloesol, gyda llawer iawn o ddiddordeb yn rhyngwladol, felly mae cysylltu â'r ymarfer SEN lefel uwch hwn yn bwysig i ni."