Pennaeth UCAS i annerch cynhadledd yn PDC
26 Ionawr, 2023
Bydd prif swyddog gweithredol y gwasanaeth derbyn i brifysgolion a cholegau (UCAS) yn rhoi araith mewn digwyddiad mawr yng Nghasnewydd y mis nesaf.
Bydd Sander Kristel yn cyflwyno’r prif anerchiad yn y Gynhadledd flynyddol i Athrawon a Chynghorwyr, sy'n cael ei threfnu gan Brifysgol De Cymru (PDC) a’i chynnal ar gampws Casnewydd y brifysgol ar 9 Chwefror.
Bydd Nick Elston, siaradwr ysbrydoledig blaenllaw ar brofiad byw iechyd meddwl hefyd yn siarad yn y digwyddiad.
Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys gweithdai ar amrywiaeth eang o bynciau a fydd o ddiddordeb i athrawon a chynghorwyr sy'n cefnogi'r sawl sy'n bwriadu astudio mewn prifysgol.
Bydd y pynciau’n cynnwys cyllid myfyrwyr, y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr PDC, darpariaeth gyrfaoedd, ysgrifennu datganiadau personol, y diwydiannau creadigol, prentisiaethau, lleoliadau gwaith, chwaraeon perfformio, a graddau carlam.
"Rydyn ni'n falch iawn o allu croesawu athrawon a chynghorwyr i’n campws yng Nghasnewydd y mis nesaf, ar gyfer ein Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr wyneb yn wyneb cyntaf ers cyn y pandemig.
"Mae rhaglen y gynhadledd yn llawn dop o wybodaeth, cyngor, ac arweiniad hanfodol i athrawon a chynghorwyr sy'n ymwneud â chefnogi myfyrwyr ar eu taith addysg uwch, a bydd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sector.
"Mae'n argoeli bod yn ddigwyddiad cyffrous, llawn gwybodaeth – rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu rhai o'n rhanddeiliaid pwysicaf i PDC," dywedodd Sera Evans, Cyfarwyddwr Cyswllt PDC ar gyfer Recriwtio Myfyrwyr y DU.
I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle, ewch i wefan PDC.