Cinio enillwyr Gwobrau Cyflenwyr 2022
17 Mai, 2023
Ddydd Mawrth 16 Mai, cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ginio ar gyfer enillwyr Gwobrau Cyflenwyr 2022. Fe'i cynhaliwyd ar Gampws Trefforest yn y Ganolfan Gynadledda.
Lansiwyd y Gwobrau Cyflenwyr ym mis Mai 2021 i ddangos gwerthfawrogiad o’r cyflenwyr sy’n gweithio gyda chydweithwyr PDC, ein myfyrwyr a’n cymunedau lleol.
Dan arweiniad tîm Caffael PDC, rhannwyd y gwobrau’n chwe chategori, gydag enwebiadau’n mynd trwy broses llunio rhestr fer panel dau gam. Hyd yn hyn, mae seremonïau gwobrwyo ar gyfer y Gwobrau Cyflenwyr wedi bod yn rhithwir.
Enillwyr gwobrau 2022 oedd: Lloyd Electrical Services, Enroly, Collecteco, a Kingdom Security. Rhoddodd y dathliad personol gydnabyddiaeth haeddiannol i’r enillwyr hyn fel cyflenwyr rhagorol i PDC, a rhoddodd gyfle i’r cyflenwyr a’r cydweithwyr o PDC a’u henwebodd i ddathlu gyda’i gilydd.
Roedd pob bwrdd dan arweiniad aelod o dîm Gweithredol PDC a oedd, unwaith eto, yn cydnabod y rhesymau pam yr oedd pob cyflenwr wedi ennill, cyn eu gwahodd i dderbyn eu gwobr gorfforol.
Dywedodd Catherine Lund, Cyfarwyddwr Caffael PDC: “Roedd yr ail Wobrau Cyflenwyr blynyddol yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle i gydnabod perfformiadau gwych ein cyflenwyr allanol yn bersonol yn y Cinio Enillwyr hwn.
“Cawsom ein taro gan amrywiaeth yr enwebiadau yn 2022 ac rydym yn falch o gydnabod sawl cyflenwr o’r ardal leol sydd wedi sefyll allan yn eu perfformiad i PDC. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr.”
Bydd Gwobrau Cyflenwyr 2023 yn cael eu lansio ddiwedd mis Mai, a chyhoeddir yr enillwyr ym mis Tachwedd. Cyhoeddir manylion ar sut i enwebu yn fuan.