Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2023 | "Mae cymaint o amrywiaeth mewn Nyrsio"

12 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Michelle_Thomas_32396.jpg

Mae Dr Michelle Thomas, Arweinydd Cwrs BSc/MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymwelwyr Iechyd), wedi cael gyrfa eang mewn nyrsio. Dechreuodd ym maes nyrsio oedolion, a symudodd yn ddiweddarach i fod yn ymwelydd iechyd, rôl gofal iechyd gymunedol bwysig, y mae llawer nad ydyn nhw’n sylweddoli ei bod yn gangen o'r proffesiwn nyrsio.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Michelle yn sôn wrthon ni am ei gyrfa a sut yr arweiniodd at radd ddoethuriaeth.

"Roedd rhai o aelodau fy nheulu'n nyrsys ond doeddwn i ddim yn teimlo o reidrwydd fy mod wedi fy ysbrydoli i ddilyn yn ôl eu traed. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud a dweud y gwir.  Tan i athro ddweud wrtha i na allwn i fyth fod yn nyrs, hynny yw – ac fe daniodd hynny rywbeth ynof i.

Wnes i ddim yn dda iawn yn academaidd yn yr ysgol, felly fe wnes i ailsefyll rhai pynciau er mwyn cael fy nerbyn ar gwrs cyn-nyrsio. Cyn gynted ag y dechreuais i, roeddwn i wrth fy modd. Bob dydd Gwener, roeddwn i’n mynd i’r ysbyty ac fe enillais i brofiad ar nifer o wardiau.

Fe wnes i sicrhau lle yn Ysgol Nyrsio Morgannwg Ganol, ond ar 20 Chwefror 1989, y diwrnod y gwnes i adael gartref, doeddwn i ddim yn gallu cychwyn fy Ford Escort Ghia. Gwnaeth fy mam a ’nhad wthio’r car, a bant â fi! Roeddwn i’n dwlu ar y car – ond doedd e ddim yn ddechrau da iawn!

Ar ôl cymhwyso, bues i’n gweithio am bum mlynedd, yn nyrsio cleifion ar wahanol wardiau,  fel dibyniaeth uchel, gynaecoleg, a llawdriniaeth y galon. Roedd pob ward angen arddull wahanol o nyrsio, felly gwnes i ddysg sut i addasu.

Yn nes ymlaen, pan ges i fabi, gwnaeth fy Ymwelydd Iechyd a fi siarad yn aml amdana i'n astudio i fod yn Ymwelydd Iechyd. Roeddwn i'n benderfynol o fynd nôl i'r gwaith achos roeddwn i wedi gweithio'n galed i fod yn nyrs a doeddwn i ddim am roi'r gorau iddo.  Astudiais ar gyfer Diploma mewn Astudiaeth Iechyd Cymunedol yn Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Caerdydd  a gwnes i fy mhrofiad ymarfer yng Nghanolfan Iechyd yr Hollies ym Merthyr. 

Roeddwn i'n mwynhau gweithio yn y gymuned a chwrdd â phobl. Sylweddolais fod hybu iechyd yn hytrach na delio â chlefydau wedi iddyn nhw ddatblygu yn ffordd well o weithio.  Mae cymaint o amrywiaeth mewn nyrsio. Gyda'r sgiliau sydd gyda chi, gallwch weithio yn unrhyw le.

Fel ymwelydd iechyd rwyf wedi gweithio mewn sawl maes a modelau gwasanaeth gan gynnwys rhaglenni Cychwyn Cadarn a Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru, yn cynnig ymyriadau wedi'u targedu i wella iechyd teuluoedd a datblygiad plant.

Rwyf wedi gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, gyda gofynion gofal iechyd a diogelu cymhleth, sydd byth yn hawdd.  Rwy'n credu bod rhywbeth eithaf pwysig ynghylch bod ychydig yn nerfus ynghylch amddiffyn a diogelu, achos rydych chi’n gorfod edrych y tu hwnt i'r darlun sy’n cael ei gyflwyno i chi a delio â'r materion hyn mewn ffordd sensitif ond hyderus.

Yn 2007, dechreuais ddysgu myfyrwyr oedd yn hyfforddi i fod yn ymwelwyr iechyd, ac fe daniodd hyn dân yn fy mol unwaith eto. Felly, astudiais ar gyfer TAR ac arweiniodd hynny at waith darlithio yn PDC, ac arweiniodd hynny’n ei dro at ymchwil academaidd.

Ers 2014, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Athro Carolyn Wallace ar yr 'Offeryn a Theclyn Asesu Gwydnwch Teuluol' (FRAIT), a'r llynedd roeddwn wrth fy modd yn graddio gyda PhD drwy bortffolio.

Rwy’n credu mai un o'r prif bethau sydd ei angen i fod yn Ymwelydd Iechyd da yw gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael fel eich bod yn gallu helpu teuluoedd i oresgyn materion penodol, ond hefyd bod yn empathig ac yn wrandawr da.  Mae'n yrfa hynod o werth chweil ac yn un y byddwn yn ei hargymell yn fawr."

 

Placeholder Image 2