Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2023 | "Mae gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth yn fraint ac yn anrhydedd"

12 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Aimee_Robinson_resized.jpg

Mae Aimee Robinson, myfyrwraig flwyddyn gyntaf o'r Coed Duon, yn hyfforddi i fod yn nyrs anabledd dysgu, ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Yn fam i ddau o blant yn eu harddegau, mae Aimee yn fyfyrwraig aeddfed, sydd wedi gweithio mewn lleoliadau gofal ers ei harddegau. Dechreuodd weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf mewn gwasanaethau dydd i oedolion ac yna ar ddarpariaeth beilot ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth cymhleth, yn cefnogi oedolion i gynyddu eu hannibyniaeth a datblygu sgiliau bywyd.

"Dydw i ddim yn difaru’r 20 mlynedd dreuliais i'n gweithio yn y maes gofal, dyna ble y des i'n angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau oedolion agored i niwed. Rhoddodd fewnwelediad a phrofiad gwerthfawr i fi, yr dwi i wedi dod â nhw gyda fi wrth astudio am fy ngradd," meddai.

"Fe welon ni ganlyniadau cadarnhaol eithriadol i bobl ag anableddau dwys ac ymddygiad heriol, ac fe wnaethon ni feithrin perthynas gref gyda'r teuluoedd hefyd."

Pan oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, doedd Aimee ddim wedi clywed rhyw lawer am nyrsio anabledd dysgu, fel cangen o ofal iechyd. Pan gwrddodd â menyw, ddaeth yn wraig iddi yn nes ymlaen, oedd yn nyrs anabledd dysgu, dyma Aimee’n sylweddoli y gallai hyn fod yn llwybr gyrfa posib iddi hithau hefyd.

Dywedodd Aimee: "Ges i ddyrchafiad i fod yn Arweinydd Tîm ac yn raddol, fe dyfodd fy hunanhyder. Fodd bynnag, wrth i fy ngyrfa fynd yn ei blaen i rolau rheoli, roeddwn i'n teimlo fy mod i'n symud yn bellach oddi wrth y bobl roeddwn i wir eisiau gweithio gyda nhw a’u helpu. Roeddwn i'n teimlo, fel rydw i o hyd, yn angerddol dros weithio gyda phobl ag awtistiaeth a gwneud newidiadau o fewn y gwasanaethau.

"Felly, fe wnes i siarad gyda fy ngwraig am fynd yn ôl i fyd addysg. Roeddwn i wedi gadael yr  ysgol heb lawer o gymwysterau, felly roeddwn i'n teimlo'n ansicr iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr allwn i wneud gradd. Ond dyma fynd amdani. Rwy’n falch iawn fy mod i wedi gwneud hynny, a does dim edrych yn ôl nawr.   

"Fe wnes i gais drwy UCAS ac fe ges i gynnig ar yr union ddiwrnod roedd angen i fi roi mis o rybudd cyn dechrau'r cwrs.  Roedd yn teimlo mai fel hyn y dylai pethau fod."

Pan ddechreuodd Aimee, y modiwl cyntaf oedd 'Anatomeg a Ffisioleg' ac roedd hi'n cwestiynu a oedd hi wedi gwneud y dewis cywir. Dywedodd: "Roeddwn i'n gofyn, beth wyt ti wedi'i wneud? Elli di ddim gwneud hyn. Ond fe wnes - ac fe ges i farc da iawn yn yr arholiad.

"Rwy’n credu bod gen i ddiffyg hyder ynof fi fy hun. Rwy'n amau a fydda i’n gallu llwyddo. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn, a'r hiraf rwyf ar y cwrs, y mwyaf rwy'n credu ynof fi fy hun."

Erbyn hyn, mae Aimee wedi gweithio ar leoliadau mewn cartref nyrsio preswyl ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a dementia, ac mewn tîm cymunedol yn Nhorfaen.

"Rwy'n cofleidio pob darn o wybodaeth a phob profiad rwy’n eu cael yn ystod fy lleoliadau i fy helpu i benderfynu pa faes rwyf am fynd iddo ar ôl graddio," meddai.

"Rwy'n teimlo bod gweithio gydag unigolion ag anableddau dysgu cymhleth ac awtistiaeth a gweld effeithiau cadarnhaol y gwasanaeth ar unigolion a'u teuluoedd wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd. Mae'n dal yn faes gofal sydd angen llawer o ddatblygu arno. Byddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o hynny, yn cefnogi newidiadau cadarnhaol a lleihau anghydraddoldebau."