Lansio rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer entrepreneuriaid cerddoriaeth Gymraeg yn PDC
4 Mai, 2023
Mae rheolwyr cerddoriaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ar fin elwa ar addysg a hyfforddiant rhad ac am ddim i helpu i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i lywio tirwedd y diwydiant cerddoriaeth sy’n newid yn barhaus.
Diolch i gyllid gan Cymru Greadigol – asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi twf y sector creadigol – bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan y Music Managers Forum (MMF), cymuned fwyaf y byd o reolwyr cerddoriaeth.
Lansiwyd y fenter ar Gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru (PDC) mewn digwyddiad rhwydweithio, lle cafwyd darlith wadd gan gyn-reolwr Coldplay, Estelle Wilkinson. Bydd yn adeiladu ar bartneriaeth bresennol yr MMF â PDC, ac yn ceisio ymgysylltu â rheolwyr cerddoriaeth ar bob lefel o bob rhan o’r wlad, gan weithio’n agos â phartneriaid gan gynnwys Anthem, Beacons a Focus Wales.
Yn ogystal â chynnig bwrsariaethau teithio i fynychu digwyddiadau hyfforddi, nod y rhaglen yw darparu porth i fwy o reolwyr o Gymru elwa ar fynediad i addysg drwy aelodaeth MMF a'i rhaglen Cyflymydd.
Mae croeso arbennig i unigolion o gefndiroedd amrywiol neu ymylol, a'r rhai sydd â rhwystrau hunan-adnabyddedig i gamu ymlaen yn eu gyrfa, i gymryd rhan, tra bydd cyhoeddiadau MMF allweddol ar gael am ddim yn Gymraeg.
Wrth ddisgrifio’r cymhelliant y tu ôl i’r rhaglen, dywedodd Prif Weithredwr yr MMF, Annabella Coldrick: “Mae rheolwyr wrth wraidd llwyddiannau cerddoriaeth fyd-eang anhygoel y DU. Yn y bôn, maent yn arwain busnesau artistiaid, cyfansoddwyr caneuon, cynhyrchwyr a thalentau creadigol eraill, gan eu galluogi i ddatblygu eu crefft a chynnal bywoliaeth. Mae’n rôl hynod o bwysig.
“Mae’r sin gerddoriaeth yng Nghymru bob amser wedi bod yn hynod gyffrous, a chredwn y bydd y rhaglen newydd hon yn cryfhau rhwydweithiau ac o fudd i reolwyr presennol Cymru a’r rhai sydd am dorri i mewn i’n proffesiwn.”
Ychwanegodd Estelle Wilkinson, sydd bellach yn rheoli Bastille, enillwyr Brit Award: “Mae’r MMF yn cynrychioli cymuned amrywiol iawn o fwy na 1,400 o entrepreneuriaid cerddoriaeth, o reolwyr profiadol yn cynrychioli artistiaid o fri i’r rhai sy’n datblygu talent sydd ar ddod. Rwy’n arbennig o falch y bydd y cymorth ychwanegol hwn gan Cymru Greadigol yn darparu hyfforddiant a chymorth i’r holl reolwyr gwych sydd eisoes yn weithgar yng Nghymru yn ogystal â chefnogi talent newydd i’r diwydiant. Mae’n hwb hynod effeithiol i’r diwydiant sydd wedi’i leoli yng Nghymru.”
Dywedodd Gerwyn Evans, Pennaeth Cymru Greadigol: “Mae sicrhau bod y genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol yng Nghymru yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn flaenoriaeth fawr i Gymru Greadigol. Rydym yn falch o fod yn cefnogi’r rhaglen hyfforddi hon ar gyfer rheolwyr cerddoriaeth y presennol a’r dyfodol sy’n rhan bwysig o’n gwaith i ddatblygu a thyfu’r sîn sydd eisoes yn ffynnu yma.”
Ychwanegodd Lucy Squire, Pennaeth Cerdd a Drama ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae PDC wrth ei fodd i barhau â phartneriaeth addysgol gyda’r Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth, i helpu i gefnogi diwydiant ffyniannus Cymru a’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y diwydiant.”