Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: “Mae bod yn fenyw yn oruwchbŵer”
8 Mawrth, 2023
(ch-dd): Ruwanthi Elpitiya, Najma Khatun, Nazeeha Mihraj, Mawra Rauf, Shenya Thillekeratne and Bindukamala Sirimandla
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), rydym yn siarad â grŵp o fyfyrwyr MBA Byd-eang sydd wedi teithio i Brifysgol De Cymru (PDC) o bedwar ban byd i astudio.
Mae Ruwanthi Elpitiya, sy’n wreiddiol o Sri Lanka, yn ei hail flwyddyn o’r MBA Byd-eang ac mae newydd ddechrau interniaeth gyda Trafnidiaeth Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes gweithgynhyrchu i gwmnïau fel Superdry, Next, Primark a manwerthwyr mawr eraill, ac mae’n mwynhau’r cyfle i ddysgu mwy am AD yn ystod ei hinterniaeth.
Meddai: “Mae dod i’r DU wedi bod yn brofiad gwych gan fy mod wedi gallu cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn gweithio gyda’i gilydd mewn diwydiant, cyfleoedd datblygu gyrfa a llawer mwy. Yn bersonol, nid wyf wedi canfod fod bod yn fenyw wedi fy nal yn ôl, ond rwy’n ymwybodol o’r rhwystrau y gallwn eu hwynebu weithiau wrth anelu at symud ymlaen yn ein gyrfaoedd dewisol, ac mae’n rhaid i hynny newid.”
Mae Najma Khatun, o Bangladesh, yn dod i ddiwedd ei gradd MBA Byd-eang ac mae eisoes yn gweithio yn PDC fel Llysgennad Gyrfaoedd a Menter.
Ar ôl gweithio gyda phlant o gefndiroedd difreintiedig yn y sector datblygu rhyngwladol, mae Najma yn awyddus i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc gyda gyrfa yn y byd academaidd.
Meddai: “Yn y gorffennol rwyf wedi profi cydweithwyr gwrywaidd yn cael rolau yr oeddwn yn gymwys ar eu cyfer, ac wedi sylwi bod fy sgarff pen weithiau'n effeithio ar ganfyddiadau pobl ohonof, ond byddaf bob amser yn cofio'r hyn a ddywedodd menyw ddoeth wrthyf unwaith: 'dangoswch iddyn nhw eich pŵer deallusol'.
"Ers hynny rwy’n ceisio canolbwyntio ar fod y gorau y gallaf fod, a pheidio â phoeni am yr hyn sydd gan bobl eraill, na’u barn.”
Daeth Nazeeha Mihraj i PDC ym mis Medi’r llynedd, gan ddechrau bywyd newydd yn Ne Cymru gyda’i gŵr a’u dau o blant ifanc, ar ôl gweithio yn flaenorol yn y sector cyllid yn Sri Lanka.
"Meddai: “Mae’r diwydiant bancio yn cael ei ddominyddu gan ddynion yn Sri Lanka, ac rwyf wedi cael llawer o brofiadau o orfod profi fy hun ochr yn ochr â’m cydweithwyr gwrywaidd o ran dangos fy nghryfderau a’m galluoedd. Mae wedi bod yn anodd ar adegau, ond rydw i wedi cymryd pob her fel cyfle i ddysgu a thyfu. Mae’n bwysig fy mod i’n dangos i fy mhlant eu bod nhw’n gallu cyflawni unrhyw beth.”
Daeth Mawra Rauf i PDC fis Medi diwethaf o Bacistan, lle bu’n gweithio fel cyfrifydd i’r Weinyddiaeth Gyllid ac ymgymerodd ag interniaeth gyda Grant Thornton International.
Penderfynodd astudio'r MBA Byd-eang i gryfhau ei sgiliau busnes a chael gwell dealltwriaeth o ddiwydiannau byd-eang.
Dywedodd Mawra: “Rwy’n credu bod yn rhaid i fenywod ymdrechu’n galetach i wneud eu marc mewn busnes.
"Ni ddylai hyn fod yn wir, ac rwy’n gweld newid graddol mewn meddylfryd, ond yn anffodus ni chyrhaeddwyd y cydraddoldeb hwnnw gyda dynion eto.
"Fel menywod, mae gennym ni oruwchbwerau nad oes gan ddynion; mae gennym sgiliau amldasgio gwych, gan gydbwyso gwaith ochr yn ochr â rhedeg cartref a magu plant, yn ogystal â dangos empathi, amynedd, goddefgarwch a chryfder mawr.
"Mae’n rhyfeddol beth allwn ni ei wneud.”
Daeth Shenya Thillekeratne, sy’n wreiddiol o Sri Lanka, i PDC ym mis Medi’r llynedd ar ôl dros ddegawd o weithio yn y diwydiant twristiaeth. Penderfynodd ddilyn yr MBA Byd-eang i gwrdd â phobl o rannau eraill o'r byd a dysgu mwy am fusnes.
Dywedodd Shenya: “Roeddwn yn y sefyllfa ffodus o gael Rheolwr Gyfarwyddwr benywaidd a oedd yn hynod gefnogol i mi a’m cydweithwyr. Er bod COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y diwydiant teithio, buom yn gweithio’n galed i amddiffyn ein tîm rhag colli swyddi, a oedd, yn fy marn i, yn dangos bod arweiniad a chredu yn ein gilydd yn llawer pwysicach nag arian.”
Daeth Bindukamala Sirimandla i PDC y mis diwethaf, fel rhan o gydweithrediad â Sefydliad Arweinyddiaeth a Rhagoriaeth Lexicon Management yn India. Mae ei chefndir mewn peirianneg, ar ôl gweithio i IBM a Loreal mewn rolau gwasanaethau technegol.
Meddai: “Wrth dyfu i fyny yn India, roedd yn rhaid i mi ddewis un o ddau lwybr gyrfa – peirianneg neu feddygaeth – er mwyn cadw fy rhieni’n hapus. Mae’n hynod brin i bobl weithio’n llwyddiannus mewn diwydiannau y tu allan i’r rhain, sy’n drueni.
"Ond trwy astudio’r MBA Byd-eang rwy’n gallu dilyn fy angerdd am AD, ac adeiladu ar fy mhrofiad o weithio gydag unigolion i gydnabod eu talent a’u recriwtio i’w swyddi delfrydol. Rwy’n credu y dylai pawb gael y cyfle i gael eu gyrfa ddelfrydol, ni waeth o ble maen nhw’n dod.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr MBA Byd-eang yn PDC, ewch i dudalennau’r cwrs.