Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Blynyddol Athrawon a Chynghorwyr PDC

13 Mawrth, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Nominations_are_open_for_the_USW_Teacher_and_Adviser_Awards_2023_in_four_.jpeg

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Blynyddol Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol De Cymru (PDC), sy’n cydnabod gwaith rhagorol unigolion mewn ysgolion uwchradd a cholegau AB ledled y DU.

Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU y Brifysgol yn cynnal y gwobrau unwaith eto eleni, mewn cydweithrediad ag Ymestyn yn Ehangach.

Gellir gwneud enwebiadau mewn pedwar categori ar gyfer athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau sydd wedi dangos rhagoriaeth yn y flwyddyn academaidd 2022-23:

  • Cymorth Bugeiliol a Lles Eithriadol
  • Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch
  • Arloeswr Digidol y Flwyddyn
  • Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn

Bydd pob enillydd gwobr yn derbyn £500 tuag at DPP a/neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg.

Mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gwahodd enwebiadau ar gyfer athrawon neu gynghorwyr o ysgolion uwchradd neu golegau AB. Gall myfyrwyr hefyd enwebu eu hathrawon neu eu hymgynghorwyr. I wneud enwebiad, dylai athrawon, cynghorwyr a myfyrwyr ymweld â www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom-ni/tim-cyswllt-ysgolion-a-cholegau/gwobrau/ erbyn dydd Mawrth 25 Ebrill. Gellir gweld meini prawf a thelerau ac amodau'r wobr ar y dudalen we uchod.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn y Ganolfan Gynadledda ar gampws Trefforest y Brifysgol ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.

Dywedodd Wendy Hinchey, Darlithydd Saesneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac enillydd Gwobr 2022 ar gyfer Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch, “Roeddwn i wrth fy modd o gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon, yn enwedig gan mai myfyriwr oedd wedi rhoi fy enw ymlaen. Mae ei geiriau caredig a’r cymorth a geir gan gydweithwyr, sy’n rhannu’r un nodau a gwerthoedd i helpu ein myfyrwyr, yn galonogol.

“Mae Coleg Meirion Dwyfor wedi’i leoli mewn cymuned wledig Gymraeg ac mae’n braf gweld myfyrwyr o bob maes pwnc yn magu hyder wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu i ysgrifennu datganiadau personol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau prifysgol ac AU. Mae’r cyfle i’w helpu i wella eu sgiliau astudio i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn bersonol yn rhoi boddhad mawr.”

Dywedodd Sera Evans, Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio Myfyrwyr y DU yn PDC: “Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi ein herio mewn sawl ffordd a bydd effaith COVID-19 ar ein pobl ifanc yn hirhoedlog. Rydym am achub ar y cyfle hwn i gydnabod yr ymrwymiad, y diwydrwydd a’r gwydnwch y mae athrawon a chynghorwyr yn ei ddangos o ddydd i ddydd, a chanmol y cymorth, yr anogaeth a’r effaith gadarnhaol a gânt ar fywydau pobl ifanc.”