Cymorth Bugeiliol a Lles Rhagorol
Bydd enillydd y wobr hon wedi datblygu dulliau cadarn ac effeithiol tuag at ofal bugeiliol, neu systemau bugeiliol sydd wedi cael effaith gadarnhaol benodol yn eu hysgol / coleg. Bydd enillydd y wobr yn dangos ei fod wedi darparu neu arwain gofal bugeiliol a chymorth lles gydag egni, ymroddiad ac empathi.
Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch
Bydd y wobr hon yn dathlu athro neu gynghorydd sydd wedi mynd y tu hwnt i ddangos buddion Addysg Uwch ar draws cymuned yr ysgol / coleg. Gall hwn fod yn berson mewn swydd arweinyddiaeth ffurfiol neu unrhyw un sydd wedi gweithio mewn ffordd sy'n cefnogi dilyniant i Addysg Uwch. Bydd yr enwebai wedi dangos dull strategol o ymgorffori Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau Gyrfaoedd (CIAG) ym mywyd yr ysgol / coleg, a thrwy hynny godi dyheadau dysgwyr wrth sicrhau bod Addysg Uwch yn hygyrch ac yn gyraeddadwy. Dylai'r person allu dangos ymgysylltiad â Sefydliadau Addysg Uwch wrth ddarparu CIAG, yn ogystal ag amlinellu'r llwybrau amgen i AU, yn ogystal â dangos dull rhagorol o ymdrin â phroses ymgeisio UCAS. Bydd ymgysylltu â rhieni a gofalwyr hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn eu dull o gefnogi dilyniant i AU.
Arloeswr Digidol y Flwyddyn
Bydd y wobr hon yn cael ei ddyfarnu i athro neu gynghorydd sydd wedi dangos rhagoriaeth ac arloesedd wrth ddefnyddio technoleg ac offer digidol i wella bywyd ysgol neu goleg. Efallai eu bod wedi ymgysylltu â dysgwyr o bell neu’n ddigidol yn yr ystafell ddosbarth, gan gyfathrebu â rhieni a gofalwyr trwy lwyfannau digidol amrywiol a defnyddio technoleg i wella lles disgyblion. Bydd yr enwebai yn ymwybodol bod technoleg yn bwysig o ran esblygiad dulliau addysgu a dysgu ac yn dangos arweiniad wrth ddatblygu’r defnydd o dechnoleg ddigidol ymhlith ei gydweithwyr.
Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn
Mae athrawon a chynghorwyr yn gwneud swyddi anhygoel mewn ysgolion a cholegau bob dydd. Mae athrawon a chynghorwyr ysgolion uwchradd rhagorol yn ysbrydoli eu myfyrwyr. Maent yn wirioneddol yn cysylltu â nhw, gan wneud iddynt deimlo'n ddiogel i rannu eu gwerthoedd a'u barn, fel bod eu myfyrwyr yn ffynnu, ac yn hollol barod ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau. Beth sy'n gwneud i'r person hwn sefyll allan yn benodol?