OBE i gyn bennaeth Gemau'r Gymanwlad Cymru
30 Mehefin, 2023
Mae Chris Jenkins, cyn Brif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru (GGC), sydd bellach yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru, wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i chwaraeon yn Anrhydeddau Pen-blwydd cyntaf y Brenin.
Fel pennaeth GGC, arweiniodd Chris Dîm Cymru i bedair o Gemau'r Gymanwlad, a goruchwylio Taith Baton y Frenhines cyn Gemau Delhi, Glasgow, Yr Arfordir Aur a Birmingham. O dan arweinyddiaeth Chris, symudodd GGC ei ffocws o un digwyddiad sy'n cael ei gynnal bob pedair blynedd, i ymdrech i sicrhau bod chwaraeon yn berthnasol yng Nghymru bob dydd. Roedd gan Chris ran annatod hefyd yn y pwyllgor Dychwelyd at Chwaraeon yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.
Daeth Chris i fyd Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 1986, pan gynrychiolodd Gymru mewn rhwyfo yng Ngemau 1986 Caeredin - y tro diwethaf i rwyfo gael ei gynnwys fel camp gydnabyddedig yn y gystadleuaeth. Parhaodd i rwyfo dros Gymru ochr yn ochr â'i yrfa 20 mlynedd ym maes arian yn Ninas Llundain, cyn dychwelyd i Gymru yn 2004 a gwirfoddoli gyda thîm Cymru cyn Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne.
Bryd hynny roedd GGC yn cael ei arwain yn llwyr gan wirfoddolwyr, a Chris oedd cyflogai cyntaf y sefydliad. Aeth yn ei flaen i weithio fel Prif Swyddog Gweithredol tan hydref 2022 - ychydig ar ôl Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham, a fu’n hynod lwyddiannus i Dîm Cymru, enillodd 28 medal.
"Does dim swydd well na gweithio i Dîm Cymru, yn enwedig eu harwain nhw i Gemau," meddai Chris. "Mae'n wych. Mae pwysau mawr, wrth gwrs; am y 18 mis i ddwy flynedd sy’n arwain at Gemau, does gyda chi ddim penwythnos na gwyliau, ond mae’n gwbl werth yr ymdrech pan welwch chi'r athletwyr yn gwenu, yn falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni."
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol, datblygodd Chris bartneriaeth lwyddiannus gyda PDC, ac yn ei sgil, mae myfyrwyr yn elwa o interniaethau a phrosiectau byw gyda Thîm Cymru.
Mae Chris bellach yn Is-lywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad - y corff llywodraethu rhyngwladol ar gyfer cymdeithasau Gemau'r Gymanwlad ledled y byd. Mae'n cydbwyso'r rôl hon gyda'i radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) yn PDC, tra'n darlithio ar gyrsiau Rheoli Busnes y Brifysgol.
Mae ei ymchwil DBA yn canolbwyntio ar sut gall digwyddiadau chwaraeon mawr fel Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd ddod yn fwy cynaliadwy, gan ddenu mwy o ddinasoedd i wneud cais i gynnal y Gemau aml-chwaraeon hyn.
O glywed ei fod wedi derbyn OBE, dywedodd Chris: "Roedd yn syndod llwyr, ond roeddwn i mor hapus fy mod wedi cael fy enwebu am anrhydedd o'r fath. Ac mae cael ei enwi yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd cyntaf y Brenin Siarl III yn ei wneud yn fwy arbennig byth.
"Rwy'n edrych ymlaen at y seremoni swyddogol a dathlu gyda’r teulu. Rydyn ni i gyd yn falch iawn."
Dywedodd Helen Phillips, Llywydd GGC: "Mae Chris yn llwyr haeddu'r gydnabyddiaeth hon am y cyfan mae wedi'i wneud dros chwaraeon yng Nghymru, a'i ymroddiad at Dîm Cymru, sydd wedi bod yn wych."
Dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd GGC: "Hoffwn longyfarch Chris ar dderbyn OBE am ei wasanaethau i chwaraeon; anrhydedd enfawr sy'n cydnabod ei ymrwymiad 17 mlynedd i GGC a chwaraeon yng Nghymru."