Doethuriaeth broffesiynol yw'r Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) a ddyluniwyd ar gyfer uwch reolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd am ddatblygu sgiliau ymchwil ar lefel uwch y gellir eu defnyddio i wneud penderfyniadau strategol gwybodus yn eu sefydliadau. Mae'r DBA yn cefnogi uwch arweinwyr i ddod yn feddylwyr beirniadol sydd â'r gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliad cymhwysol i wneud newid go iawn. 

Mae'r DBA wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli sydd am adeiladu ar eu gwybodaeth a'u profiad helaeth trwy roi theori sefydliadol ac ymarfer ymchwil ar waith. Y myfyriwr sy'n pennu ffocws y DBA a thrwy ddatblygiad y traethawd ymchwil, anogir pob ymgeisydd doethuriaeth i archwilio'r cyfraniad at wybodaeth ymarferol a damcaniaethol ei ddisgyblaeth. 

Ar gael yn llawn amser neu ran amser, mae Doethur Gweinyddiaeth Busnes PDC yn ddewis rhagorol i unigolion sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaeth Ddoethurol tra mewn swyddi rheoli amser llawn.  

Ymunwch â'n grŵp LinkedIn 

2023 Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
Llawn amser 3 flwyddyn Medi Ar-lein 8
Llawn amser 3 flwyddyn Medi Trefforest A
Llawn amser 5 flwyddyn Medi Trefforest A
Rhan amser 6 flwyddyn Medi Trefforest A
Rhan amser 6 flwyddyn Medi Ar-lein 8
2024 Dull Astudio Hyd Dyddiad cychwyn Campws Cod Campws
Llawn amser 3 flwyddyn Chwefror Trefforest A
Llawn amser 3 flwyddyn Medi Trefforest A
Llawn amser 3 flwyddyn Medi Ar-lein 8
Rhan amser 6 flwyddyn Chwefror Trefforest A
Rhan amser 6 flwyddyn Medi Trefforest A
Rhan amser 6 flwyddyn Medi Ar-lein 8

Mae gan y DBA ddwy lefel benodol, Lefel 7 a Lefel 8. Mae Lefel 7 yn cynnwys 120 credyd a addysgir ac adroddiad ymchwil annibynnol 60 credyd. Mae'r adroddiad ymchwil annibynnol yn cynrychioli datblygiad ymchwil y myfyriwr cyn bellad a rhaid iddo gynnwys: eu cwestiwn ymchwil wedi'i fireinio, gwerthfawrogiad o'r maes damcaniaethol (ffenomenolegol) y mae ei ymchwil yn eistedd ynddo, trosolwg o'r ymchwil bresennol, y fethodoleg ymchwil a'r dulliau ymchwil arfaethedig . 

Mae cwblhau Lefel 7 yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i Lefel 8 sy'n cynnwys y traethawd doethuriaeth. 

Modiwlau DBA (oll yn fodiwlau craidd) 

Natur ymchwil 
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyriwr i ymarfer ymchwil doethuriaeth. Gan ddechrau o ofyn y cwestiwn ymchwil cywir, mae'r modiwl hwn yn arfogi'r myfyrwyr â'r gwybodaeth i fynd at ymchwil doethuriaeth mewn modd aeddfed a phwyllog. 

Sgiliau proffesiynol 
Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r offer a'r wybodaeth ofynnol i fyfyrwyr gwblhau ysgrifennu doethuriaeth ac ymchwil yn eu maes pwnc. 

Ymchwil feintiol 
Nod y modiwl yw arfogi myfyrwyr doethuriaeth â dealltwriaeth o'r rhesymeg dros ddulliau meintiol a'u defnyddio'n briodol mewn ymchwil gymdeithasol, a'r sgiliau i gyflawni ymchwil feintiol. 

Ymchwil Ansoddol  
Nod y modiwl yw arfogi myfyrwyr doethuriaeth â dealltwriaeth o'r rhesymeg dros ddefnyddio dulliau ansoddol mewn ymchwil gymdeithasol a'u defnyddio'n briodol, a'r sgiliau i gyflawni ymchwil ansoddol. 

Damcaniaeth sefydliadol
Nod y modiwl yw arfogi myfyrwyr â dealltwriaeth datblygedig o'r materion, y dulliau a'r sail gysyniadol ar gyfer ymchwilwyr sy'n astudio rheolaeth, sefydliadau a chyd-destun rheoli menter 

Ymchwil ymarferol 
Dyluniwyd y modiwl hwn i ddangos trwy ymchwil ymarferol sut y gellir rhoi naill ai dulliau ansoddol neu feintiol (neu'r ddau) ar waith o ran datblygu ac archwilio empirig ffenomenau, problemau, cynigion a / neu ddamcaniaeth ar draws amrediad o feysydd rheoli. 

Adroddiad ymchwil annibynnol 
I ddangos dilyniant prosiect ymchwil doethuriaeth fel ei fod yn ddigonol i'w ddatblygu'n draethawd doethuriaeth. 

  

Dysgu 

Cynigir y Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes yn rhan amser ac amser llawn. Mae myfyrwyr rhan amser yn astudio tri modiwl bob blwyddyn academaidd am ddwy flynedd. Mae myfyrwyr amser llawn yn astudio pob un o'r chwe modiwl a addysgir mewn blwyddyn academaidd. 

Cyflwynir yr holl fodiwlau a addysgir mewn blociau wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cyflwynir pob modiwl trwy gymysgedd cyfunol o ddarlithoedd a gweithdai tiwtora yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein lle anogir myfyrwyr i ryngweithio a chyfrannu at y profiad dysgu. 

Gweler tudalennau ein Hysgol Raddedigion i gael mwy o wybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr ymchwil, ynghyd â manylion opsiynau PhD a Meistr yn ôl Ymchwil. 


Asesiad 

Ar ddiwedd pob modiwl ar y DBA byddwch yn cwblhau darn o waith wedi'i asesu sy'n cyfateb i 6,000 o eiriau. Yn dilyn y chwe modiwl a addysgir rhaid i bob myfyriwr gynhyrchu adroddiad ymchwil unigol a asesir trwy ddogfen drosglwyddo ysgrifenedig 18,000 o eiriau ac arholiad viva voce. Bydd cwblhau'r chwe modiwl a addysgir yn llwyddiannus a'r adroddiad ymchwil unigol yn galluogi'r myfyriwr i symud i gam traethawd ymchwil y rhaglen DBA. 

Mae cam traethawd ymchwil y DBA yn ddogfen sylweddol seiliedig ar ymchwil a fyddwch yn ei gyflwyno ar ffurf doethuriaeth annibynnol o tua 100,000 o eiriau. Arholir y traethawd ymchwil trwy viva voce ar ôl ei gyflwyno. 

Darlithydd dan Sylw:  
Yr Athro Gareth White  

Mae Ymchwil yr Athro Gareth White yn edrych ar yr amrediad o faterion sy'n gysylltiedig â gweithrediad busnes a chymdeithas. Yn benodol mae'n archwilio rheolaeth ac effaith technolegau sy'n dod i'r amlwg yn benodol, a'r mecanweithiau y gall sefydliadau a chymdeithas eu defnyddio i ddod yn gynaliadwy. 

Mae ei ymchwil wedi helpu sefydliadau i nodi deunyddiau gwastraff ac wedi helpu i ddylunio cynhyrchion a phecynnu cynaliadwy. Hefyd, mae wedi mynd i'r afael â'r cyfyngiadau a roddir ar Fentrau Cymdeithasol wrth wella anghenion cymdeithasol. Ac yn olaf, mae wedi darparu archwiliad beirniadol o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg sydd wedi arwain strategaethau mabwysiadu sefydliadau. 

Mae ei yrfa yn rhychwantu peirianneg modurol a Fformiwla 1, peirianneg systemau niwclear a gweithgynhyrchu bwyd mewn ystod o rolau Peirianneg a Rheoli Gweithrediadau. O ganlyniad, mae ei ddiddordebau ymchwil yn adlewyrchu'r cyfrifoldebau eang hynny a'r angen i ddeall sut y gweithiodd pob un o'r gwahanol rannau gyda'i gilydd ar y cyd. 

"Mae ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ymchwilwyr gweithredol. Mae hyn yn bwysig oherwydd mai nad endid statig yw gwybodaeth ddynol. Er mwyn arfogi arweinwyr busnes a chymdeithas y dyfodol, mae angen iddynt fod yn agored i ddadleuon damcaniaethol cyfoes ac ymyriadau ymarferol. gydag ymchwilwyr gweithredol nid yn unig yn golygu bod gwybodaeth myfyrwyr yn gyfredol, ond hefyd yn creu meddwl beirniadol sy'n gallu mynd i'r afael â heriau'r dyfodol. " 

    

Darlithwyr 

  • Dr Simon Thomas, arweinydd cwrs DBA 

  • Stuart Milligan 

  • Victoria Stephens 

  • Dr Gabor Horvath 

  • Yr Athro Gareth White 

  • Dr Elizabeth Lloyd Parkes 



Rydym yn ailddilysu cyrsiau ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yn rheolaidd

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Mae mynediad i'r Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) fel rheol yn gofyn am radd Meistr gan sefydliad academaidd cydnabyddedig. Yn ogystal, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o brofiad proffesiynol neu reoli sylweddol. 

Rhaid i bob ymgeisydd allu cyrchu sefydliadau i gynnal eu hymchwil. Fel rheol, eich sefydliad cyflogi fydd hwn ond gall gynnwys eraill. Mae mynediad at gefnogaeth ar gyfer yr astudiaeth ymchwil yn hanfodol o ran y dewis cychwynnol ac am hyd y rhaglen. 

Rhaid i geisiadau gynnwys dau eirda ar bapur pennawd gan eich canolwyr y dylid eu huwchlwytho fel dogfen ategol. Nodwch, ni allwn dderbyn ceisiadau heb y ddau eirda hyn. Dylai o leiaf un canolwr allu rhoi sylwadau ar eich gallu academaidd / proffesiynol. Nid yw geirdaon a ddarperir gan berthnasau yn dderbyniol. 

Mae'n ofynnol i chi ddarparu cynnig ymchwil doethuriaeth manwl cyn y cam derbyn. Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Banel Ceisiadau Ymchwil y Brifysgol. Ar ôl i'ch cynnig ymchwil gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo, byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad a allai fod ar ffurf gyfweliad panel. 

Dylai ymgeiswyr rhyngwladol nad sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf fod wedi cael eu haddysgu a'u hasesu yn Saesneg a gallu dangod tystiolaeth o ruglder Saesneg TOEFL 570 neu IELTS 6.5 neu uwch. 

Ffioedd Awst 2021 - Gorffennaf 2022   

  • Llawn amser y DU: I'w gadarnhau 

  • Rhyngwladol Llawn Amser: I'w gadarnhau

  • Rhan-amser y DU: I'w gadarnhau  

Ffioedd Awst 2022 - Gorffennaf 2023    

  • Llawn amser y DU: I'w gadarnhau 

  • Rhyngwladol Llawn Amser: I'w gadarnhau 

  • Rhan-amser y DU: I'w gadarnhau 


Manteision Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n buddsoddi mewn cymaint mwy na dim ond gradd. Rydym yn ymdrechu i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr, ni waeth beth y dewiswch ei astudio. Boed yn fynediad i lyfrau Mac a Chyfrifiaduron Personol o’r radd flaenaf, cyfleusterau o’r radd flaenaf yn llawn offer a meddalwedd sy’n arwain y diwydiant, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, neu amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau i gwrdd â phobl o’r un anian, mae gwell yfory yn dechrau gyda manteision ychwanegol.

Mae gan bob cwrs hefyd eu buddion myfyrwyr unigryw eu hunain i'ch paratoi ar gyfer y byd go iawn, a gellir dod o hyd i fanylion y rhain ar ein tudalennau cwrs. O deithiau maes byd-eang, profiad gwaith integredig ac adnoddau rhad ac am ddim yn ymwneud â chyrsiau, i fentrau a ariennir, prosiectau sy'n gweithio gyda chyflogwyr go iawn, a chyfleoedd ar gyfer cymwysterau ac achrediadau ychwanegol - yn PDC mae eich dyfodol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am fanteision myfyrwyr yn PDC.


Costau Ychwanegol 

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

* Rhwymedig 

Arall: Gwerslyfrau  

Dim gwerslyfrau gorfodol i'w prynu. 


Cyllid 

Cyllid i helpu i dalu am (neu orchuddio) ffioedd dysgu cwrs a chostau byw

Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

I ddysgu am ffioedd cyrsiau, opsiynau ariannu, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i'n tudalennau Ffioedd a Chyllid.

Dylwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am y ddoethuriaeth hon. 

Mae gan y Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes broses ymgeisio dwy ran: cais llawn gan gynnwys cynnig ymchwil; a chyfweliad ag arweinydd cwrs DBA ac un aelod o dîm y cwrs 

Ymgeisiwch nawr  

Datganiad derbyn 

Mae ymgeiswyr llwyddiannus DBA yn aml yn cesio gwella eu gyrfa i lefelau strategol mewn sefydliadau. Mae gan raddedigion DBA y gallu i greu a dehongli gwybodaeth newydd trwy ymchwil wreiddiol. Maent yn cynhyrchu ymchwil wreiddiol o'r radd flaenaf o ansawdd cyhoeddadwy sy'n eu gwahaniaethu rhwng reolwyr eraill. Mae hyn yn cwmpasu dylunio, gweithredu a lledaenu cadarn. Mae'r ymchwil hon hefyd yn gwneud cyfraniadau sylweddol i ymarfer ar sawl lefel, o fewn sefydliadau, ar lefel diwydiant, ac ar lefel polisi. Mae nifer o'n graddedigion DBA wedi symud ymlaen i swyddi ar lefelau uwch yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r byd academaidd.