PDC yn ennill Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru

30 Mehefin, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/SW_schools_awards.jpg

Lisa Taylor, PDC, Daniel Evans, GPT Environmental, a Loren Henry, Urban Circle.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill gwobr 'Coleg neu Brifysgol y Flwyddyn' yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2023.

Roedd y beirniaid o'r farn bod PDC wedi rhagori mewn amryw agweddau, fel cyflawniad academaidd, gweithio mewn partneriaeth â busnesau, darparu amgylchedd dysgu cadarnhaol a helpu pobl ifanc i ffynnu a chodi eu dyheadau.

Cyflwynwyd y wobr i Lisa Taylor, Cyfarwyddwr Addysg a Loren Henry, Cyd-sylfaenydd Urban Circle, mewn seremoni ar Gae Ras Cas-gwent.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor: "Roeddwn wrth fy modd yn clywed ein bod wedi ennill 'Prifysgol y Flwyddyn'.

"Mae dathlu ein '10 Mlynedd o Effaith' wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni fel sefydliad, a bod yn falch ohono. Mae PDC wedi ymrwymo at greu newid cadarnhaol a chael effaith go iawn sy'n cael ei theimlo y tu allan i adeiladau'r campws, ledled De Cymru, a’r tu hwnt. Diolch, mae'r wobr hon yn perthyn i holl aelodau teulu PDC.

"Hoffwn hefyd longyfarch Ysgol Gynradd Libanus, un o'n partneriaid addysg allweddol, a enillodd Ysgol Gynradd y Flwyddyn."

Noddwyd y wobr gan GPT Environmental.

Placeholder Image 2