Teyrnged i'r Arglwydd Morris o Aberafan

6 Mehefin, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Lord_Morris.jpg

Mae Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, wedi rhoi teyrnged i'r Arglwydd John Morris, sydd wedi marw yn 91 oed.

Yn gyn Weinidog Cabinet ac AS Llafur Cymru, roedd yr Arglwydd Morris o Aberafan yn Ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2013. Ffurfiwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 gydag uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Yn 2014 dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i'r Arglwydd Morris gan Brifysgol De Cymru am ei gyfraniad at hanes y Brifysgol a gwleidyddiaeth Cymru.

Yn ystod ei yrfa wleidyddol, cynrychiolodd yr Arglwydd Morris Aberafan fel ei AS Llafur o 1959 ac ef oedd yr AS Cymreig a wasanaethodd hiraf tan 2001. Bu ganddo nifer o rolau gweinidogol, gan gynnwys Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, mewn gwahanol Lywodraethau. Fe'i urddwyd am oes fel y Barwn Morris o Aberafan a Cheredigion yn 2001, fe'i gwnaed yn Arglwydd Raglaw Dyfed flwyddyn yn ddiweddarach, a chafodd ei benodi i Urdd y Gardys fel Marchog Gydymaith yn 2003.

Wrth roi teyrnged i'r Arglwydd Morris, dywedodd Dr Calvert: "Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ym Mhrifysgol De Cymru wrth fynegi’r tristwch a deimlon ni o glywed am farwolaeth yr Arglwydd Morris.

"Fel mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud, roedd yn gawr ym myd gwleidyddol Cymru ac fe frwydrodd yn gryf dros ei egwyddorion - nodwedd a gafodd ei gydnabod gan nifer o Brif Weinidogion y DU a elwodd o'i gyngor doeth.

"Roedd yr Arglwydd Morris yn gyfaill mawr i’r Brifysgol ac yn eiriolwr mawr drosti. Bydd y gefnogaeth a roddodd yr Arglwydd Morris fel Canghellor bob amser yn cael ei chofio gan y rhai a ddaeth i gysylltiad ag ef.

"Rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant â'r Arglwyddes Morris, ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg drist hon."