Wythnos Ffoaduriaid | Mae academyddion o Syria yn ennill Cymrodoriaethau AdvanceHE o PDC
20 Mehefin, 2023
I nodi Wythnos Ffoaduriaid (19-25 Mehefin) rydym yn siarad â thri academydd sydd wedi’u dadleoli o Syria ac sydd wedi elwa o weithio tuag at gymrodoriaethau Addysg Uwch, diolch i gefnogaeth gan PDC.
Mae Jamil Hallak, Sohayb Abdulkarim a Fateh Shaban i gyd yn aelodau o raglen Cymrodoriaeth Cara (Cyngor Academyddion Mewn Perygl), a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhwydwaith o brifysgolion y DU – gan gynnwys PDC – i ddarparu cymorth ariannol a helpu academyddion ledled y byd i ddianc i fan diogel lle gallant barhau â'u gwaith.
Fel rhan o hyn, mae'r academyddion wedi mynd ymlaen i ennill Cymrodoriaethau gan Advance HE, a elwid gynt yn Academi Addysg Uwch, trwy weithio'n agos gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
Jamil Hallak
Roedd Jamil yn Syria, yn astudio ar gyfer ei radd Meistr mewn Peirianneg Ddiwydiannol ac yn gweithio’n rhan-amser fel darlithydd pan ddechreuodd y rhyfel. Wrth i'r aflonyddwch fynd yn rhy beryglus iddo barhau â'i waith academaidd yno, penderfynodd Jamil adael y wlad gyda'i deulu ac adleoli i Dwrci.
Yn ddiweddarach cwblhaodd ei PhD mewn Peirianneg Ddiwydiannol ym Mhrifysgol Cukurova, Twrci, yn 2019. Archwiliodd ei ymchwil ddatblygiad methodoleg aml-amcan a allai helpu penderfynwyr i nodi llochesi, ysbytai, ysgolion a chyfleusterau eraill gorau posibl mewn ardaloedd o wrthdaro, gan ddefnyddio GIS (systemau gwybodaeth ddaearyddol) i ddyrannu'r bobl sydd wedi'u dadleoli fwyaf mewn angen i gyfleusterau o'r fath.
Yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Aleppo yn Syria, sylwodd Jamil ar fwlch rhwng caffael gwybodaeth a theori pwnc yn cael ei gymhwyso mewn ffordd ymarferol. Mae wedi bod yn nod iddo ers hynny – ym mha bynnag wlad y mae’n gweithio – i gau’r bwlch hwn a datblygu sgiliau cyflogadwyedd ei fyfyrwyr, gan wneud y gorau o’u potensial yn y gweithle.
Ers dod yn aelod o raglen Cymrodoriaeth Cara, ac wedi hynny gweithio tuag at ei Gymrodoriaeth Gysylltiol yr Academi Addysg Uwch, mae Jamil wedi cael cynnig rôl addysgu ym Mhrifysgol Hasan Kalyoncu yn Nhwrci.
Dywedodd: “Gwireddu breuddwyd oedd cael cynnig y cyfle i weithio gyda PDC a pharhau i weithio yn fy maes arbenigedd. Ar ôl symud i Dwrci, cefais fy natgysylltu o swyddi ym myd addysg, a rhoddodd hyn gyfle i mi ddechrau eto a dod o hyd i gyfleoedd newydd.
“Rwyf wedi cael cymorth ac arweiniad amhrisiadwy, ac wedi ennill llwyfan lle gallaf gysylltu ag academyddion eraill; cyfnewid syniadau, dysgu o’u profiadau a gweld fy ymchwil o wahanol safbwyntiau.”
Mae Jamil hefyd wedi elwa ar gwrs 10 wythnos mewn Saesneg at Ddibenion Academaidd, a ddarperir gan Ganolfan Saesneg Rhyngwladol PDC.
Ychwanegodd: “Roedd yn gyfle gwych i drafod fy ngwaith gydag addysgwyr eraill, ac ennill sgiliau pellach yn Saesneg sydd heb os wedi cyfoethogi fy sgiliau addysgu ac ymchwil hefyd.
“Mae cyflawni’r Gymrodoriaeth Gysylltiol yn garreg filltir arwyddocaol yn fy ngyrfa. Rwy’n teimlo ymdeimlad o gyflawniad a balchder mawr o gael y gydnabyddiaeth hon gan PDC, ac mae’n fy ysgogi i ymdrechu i gyflawni rhagor o waith addysgu ac ymchwil.”
Sohayb Abdulkarim
Dechreuodd Sohayb ei daith academaidd ym Mhrifysgol Aleppo, Syria, yn 1987 lle astudiodd radd israddedig mewn Peirianneg Fecanyddol, ac yna diploma mewn Peirianneg Awyrofod. Yna dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo i ddilyn MSc mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Salford, lle graddiodd yn 2003 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.
Dyfarnwyd ysgoloriaeth arall i Sohayb i gynnal ymchwil PhD ym Mhrifysgol RWTH-Aachen yn yr Almaen, lle graddiodd yn 2011. Fodd bynnag, oherwydd y rhyfel yn Syria a ddechreuodd y flwyddyn honno, bu'n rhaid iddo adleoli i Dwrci, lle bu'n gweithio fel Athro Cynorthwyol yn adran Peirianneg Awyrofod Prifysgol Gaziantep. Yno, cynlluniodd a chyflwynodd Sohayb gyrsiau paratoadol i fyfyrwyr, a ysbrydolodd ei angerdd am addysgu.
Mae’n parhau i addysgu a gwneud ymchwil ym Mhrifysgol Gaziantep, ac ers hynny mae wedi dod yn aelod o raglen Cymrodoriaeth Cara sydd wedi caniatáu iddo weithio tuag at ei Gymrodoriaeth HEA o PDC.
Dywedodd Sohayb: “Rwyf wedi ennill cymaint yn ystod fy amser gyda Phrifysgol De Cymru. Mae bod yn gysylltiedig â PDC yn werthfawr iawn wrth gyhoeddi papurau ymchwil a gweithio gydag academyddion o brifysgolion eraill. Mae gallu cyrchu'r swm helaeth o adnoddau llyfrgell a meddalwedd yn PDC hefyd wedi bod o fudd mawr wrth gynnal fy ymchwil.
“Rwy’n teimlo ymdeimlad enfawr o gyflawniad fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn ac wedi ennill y safon hon o gydnabyddiaeth. Byddaf yn gallu ychwanegu tystysgrif yr HEA at fy CV, a fydd yn rhoi cyfleoedd i mi wneud cais am rolau ymchwil ac addysgu pellach.
“Rwy’n gobeithio, wrth gwrs, dychwelyd i Syria rhyw ddydd, os bydd y sefyllfa yno byth yn gwella. Rwy’n un o 10 miliwn o bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, felly bydd yn cymryd amser hir iawn i ddychwelyd i unrhyw fath o normal.”
Fateh Shaban
Mae Dr Fateh Shaban yn Ddoethur mewn Daearyddiaeth Ddynol, ac wedi bod yn byw yn Nhwrci gyda’i deulu ers 2014, ar ôl gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Aleppo yn Syria yn flaenorol. Ar ôl gwneud ei PhD mewn Daearyddiaeth a Chynllunio Rhanbarthol ym Mhrifysgol Helwan yn yr Aifft, ni allai Fateh ddychwelyd i Syria oherwydd y rhyfel cartref a'r aflonyddwch a ddaeth yn ei sgil i gynifer o bobl.
Ers dod yn aelod o raglen Cymrodoriaeth Cara, mae Fateh wedi gweithio tuag at ei Uwch Gymrodoriaeth gyda PDC ac mae wedi gallu parhau â’i ymchwil ym maes Daearyddiaeth. Mae bellach wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caint, yn gweithio yn ei Hysgol Anthropoleg a Chadwraeth.
Dywedodd: “I mi, a’r rhan fwyaf o’m cydweithwyr yn Syria, diffyg ymlyniad academaidd yn sicr oedd y rhwystr mwyaf i ddod o hyd i swyddi addas wrth adleoli i Dwrci. Felly dyna pam mae bod yn rhan o’r cynllun hwn wedi bod mor fuddiol; mae dod yn Uwch Gymrawd yn amhrisiadwy gan y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar fy ngweithgareddau yn y dyfodol.
“Tra nad wyf yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, oherwydd bod ein sefyllfa’n ansicr, fy ngobaith a’m breuddwyd yw, un diwrnod, pan fydd y rhyfel drosodd, y byddaf yn dychwelyd i’m gwlad ac y gallwn ddechrau ailadeiladu ein bywydau yn Syria. Rwyf mor ddiolchgar i PDC am ei chefnogaeth. Oni bai am gyfleoedd fel hyn, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw.”
Ychwanegodd Lyndsey Muir, Arweinydd Cynllun ar gyfer Addysgu a Chefnogi Dysgu yn PDC: “Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser pur gweithio gyda’r tri chydweithiwr academaidd hyn. Maent yn dod â chymaint o wybodaeth a phrofiad byd-eang i’n cynllun a byddant yn ein galluogi i gefnogi cydweithwyr Cara yn y dyfodol, ar ôl i bawb gytuno i fod yn fentoriaid rhyngwladol i TSL.
“Mae gallu cefnogi cydweithwyr yn eu mamiaith yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i ymgysylltu â’r cynllun, ac yn rhoi mynediad cyfartal i weithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus, waeth beth fo’u hamgylchiadau.”