Anrhydedd Gwobrau Entrepreneur i Victor, myfyriwr graddedig PDC

21 Tachwedd, 2023

Victor Ajabo yn gwenu ar y camera, yn erbyn cefndir yn arddangos logo Gwobrau Entrepreneur

Mae Victor Ojabo, myfyriwr graddedig o Brifysgol De Cymru (PDC), wedi colli allan o drwch blewyn ar gael ei enwi'n Entrepreneur Technoleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Entrepreneur Prydain Fawr.

Wedi'i leoli yn Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru ar Gampws Casnewydd y Brifysgol, mae busnes Victor, NDT South Wales Ltd, wedi mynd o nerth i nerth ers iddo ddechrau ar ôl cwblhau ei MSc Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth yn 2017, ac yna mynd ymlaen i wneud ei MBA, y ddau yn PDC.

Gan ganolbwyntio ar 'Brofi Annistrywiol' ar gyfer Seilwaith hanfodol i nifer o ddiwydiannau hanfodol, mae busnes Victor yn gweithio gyda chwmnïau mewn nifer o sectorau, gan gynnwys awyrofod, rheilffordd, dur, peirianneg sifil, trin dŵr a gweithgynhyrchu manwl.

Ar ôl y gwobrau, esboniodd Victor fanteision bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr.

"Mae cael fy enwebu fel terfynwr ar gyfer gwobr fel Gwobrau Entrepreneur Prydain Fawr yn golygu llawer i mi a'r busnes," meddai.

"Mae'n wych cael cydnabyddiaeth am gyfraniadau a chyflawniadau ym maes entrepreneuriaeth technoleg, a'r dilysiad y mae'n ei gynnig i fusnes. Yn bersonol, rwy'n cael boddhad a chymhelliant mawr o gael fy nghydnabod am fy ngwaith caled a'm hymroddiad, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfleoedd rhwydweithio y mae enwebiad y wobr yn eu harwain atynt.

"Waeth beth fo'r canlyniad, mae cael fy enwebu fel terfynwr yn gyflawniad i fod yn falch ohono ac yn darparu buddion gwerthfawr ar gyfer fy nhaith entrepreneuraidd."

Ar ôl yr enwebiad, soniodd Victor hefyd am fanteision gweithio o Stiwdio Sefydlu PDC.

"Mae Stiwdio wedi rhoi mynediad i mi at adnoddau pwysig, fel gofod swyddfa, offer, a seilwaith technoleg, sydd wedi lleihau gorbenion yn sylweddol ar gyfer fy musnes newydd," meddai.

"Mae'r cyfleoedd datblygu hefyd yn ddefnyddiol iawn, megis mynediad at rwydweithio a mentoriaid a chynghorwyr profiadol, a rhaglenni addysgol, mae mynediad at gyllidwyr a chymorth ariannol, wedi bod yn arbennig iawn.

"Yn ogystal, mae bod yn gysylltiedig â sefydliad ag enw da fel Prifysgol De Cymru wedi gwella hygrededd ac enw da fy musnes yng ngolwg partneriaid, cwsmeriaid a buddsoddwyr posibl."