Cydnabyddir Rhaglen Gwirfoddolwyr Rhithwir gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol
29 Tachwedd, 2023
Mae Dr Martin Wright, Cymrawd Gwadd yng Nghanolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch Prifysgol De Cymru (PDC), wedi derbyn canmoliaeth gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Wendy Gunney.
Wedi’i lleoli yn Heddlu De Cymru, mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Wendy Gunney, yn gyfrifol am Gydweithrediad Cymru Gyfan, Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru, a’r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, Tarian.
Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad Dr Wright wrth sefydlu’r rhaglen Gwirfoddolwyr Rhithwir ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Gwirfoddolwyr Rhithwir yn amgylchedd ar-lein unigryw, sydd wedi’i gynllunio, mewn cydweithrediad â Tarian, fel y gall staff a myfyrwyr PDC weithio ar atebion i heriau a wynebir gan yr heddlu.
Cyflwynwyd y wobr i Dr Wright yn Seremoni Cydnabod Tarian, a gynhaliwyd ym Mharc Gwledig Margam, ar 17 Tachwedd. Dywedodd: “Mae’n anrhydedd ac yn bleser mawr i mi gael fy nghydnabod am wobr gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Wendy Gunney. Ni allwn fod wedi cyflawni hyn heb lawer o gyfraniadau a wnaed gan fyfyrwyr PDC.
“Mae hwn wedi bod yn ymdrech tîm PDC ac rwyf am gydnabod cefnogaeth garedig Mike Saleh, Uwch Bartner Lleoliad Gwaith a Dr Rachel Taylor, Uwch Ddarlithydd Seicoleg.”