Eisteddfod 2024: Tynnu sylw at PDC a Rhondda Cynon Taf
14 Awst, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/08-august/Eisteddfod-2024---bucket-hat-winners.png)
Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) gannoedd o ymwelwyr i’w stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf, pan ddaeth gŵyl ddiwylliannol Gymraeg i Bontypridd.
O’r Maes ym Mharc Ynysangharad i Gampws Trefforest PDC, cymerodd pobl o bob oedran ran mewn rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau a ddangosodd bopeth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Yn ystod yr wythnos, mwynhaodd ymwelwyr weithdai ac arddangosiadau o ystod o feysydd pwnc, gan gynnwys Seicoleg, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Gofal Iechyd, Addysg, Ffasiwn, Ffilm, Ffotograffiaeth a llawer mwy.
Cynhaliodd PDC hefyd ddigwyddiad cerddoriaeth fyw gan fyfyrwyr, colegau partner a graddedigion, gan gynnwys AWDL, MELLT, Rhosyn Jones a Melys Edwards, a chynhaliodd dderbyniad cyn-fyfyrwyr ar gyfer mwy na 50 o aelodau ei chymuned raddedigion.
Roedd stondin PDC yn arddangos gwaith gan fyfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol o’u prosiect Gorsaf i Orsaf – cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru – sy’n rhoi cipolwg ar fywyd bob dydd yng nghymoedd De Cymru. Roedd Dod o hyd i Gartref hefyd yn cael ei arddangos, sef arddangosfa ar waith PDC fel Prifysgol Noddfa, yn adrodd straeon myfyrwyr PDC sydd wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth ac sydd bellach yn ailadeiladu eu bywydau fel ffoaduriaid yng Nghymru.
Mewn mannau eraill ar y Maes, cynhaliodd PDC weithdai Effeithiau Gweledol yn y Sinemaes, gan ddefnyddio sgrin werdd gludadwy i ymwelwyr weld eu hunain mewn lleoliadau a chefndiroedd trawiadol.
Roedd y Brifysgol hefyd yn gyd-noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg – canolbwynt cadarn yn yr ŵyl– ochr yn ochr â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn ogystal â chynghori ymwelwyr ar yrfaoedd mewn STEM a chyfleoedd mewn sgiliau seiber a digidol, cynhaliodd PDC ddarlith ar Ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg, a gweithdai Rocedi poblogaidd iawn, lle’r oedd ymwelwyr yn gallu adeiladu eu rocedi eu hunain.
Gallai ymwelwyr ddysgu mwy am ddod yn fyfyriwr PDC trwy sgwrsio â staff am gyrsiau a mynd ar daith rithwir o’i champysau gyda phensetiau Realiti Rhithwir (VR). Buont hefyd yn mwynhau teithiau o amgylch ei chyfleusterau megis y Parc Chwaraeon, Awyrendy ac Efelychydd Hedfan, Tŷ Ymchwilio Safle Trosedd a Chanolfan Efelychu Gofal Iechyd.