Paralympiad, a ddaeth yn fyfyrwraig, yn rhannu taith ysbrydoledig i Therapi Galwedigaethol

28 Awst, 2024

Mae Sara yn eistedd mewn cwrt tennis bord yn ei chadair olwyn. Mae hi'n dal bat tennis bord mewn un llaw ac yn dyrnu'r awyr i ddathlu gyda'i llaw arall. Mae gan y bwrdd logo 'Llundain 2012' arno.

Mae gan Sara Head, myfyrwraig blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), stori ryfeddol sy'n cyfuno buddugoliaeth athletaidd â gwydnwch personol. Mae'r Paralympiad, a gystadlodd mewn tennis bord yng Ngemau Llundain 2012 a Gemau Rio 2016, bellach yn astudio gradd mewn Therapi Galwedigaethol - penderfyniad sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ei phrofiadau personol.

Dechreuodd taith Sara i Therapi Galwedigaethol yn ystod ei chyfnod fel gwirfoddolwr yn y GIG, lle daeth o hyd i lawenydd wrth helpu cleifion. Fodd bynnag, ei brwydr gyda Covid ym mis Ionawr 2021 a gadarnhaodd ei llwybr. Ar ôl treulio 12 wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys 11 diwrnod ar beiriant anadlu, cafodd ei swyno gan rôl Therapyddion Galwedigaethol wrth adfer cleifion.

Mae gwydnwch Sara yn amlwg nid yn unig yn ei brwydr gyda Covid ond drwy gydol ei bywyd. Daeth yn anabl yn 15 oed a daeth o hyd i gryfder wrth chwarae pêl-fasged cadair olwyn ac yn ddiweddarach tenis bord, gan ei harwain yn y pen draw at Y Gemau Paralympaidd. Mae Sara wedi cystadlu mewn sawl pencampwriaeth ac mae ganddi 52 o fedalau rhyngwladol.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad yn Llundain, dywedodd Sara: "Roedd yn anhygoel, yn enwedig gyda fy nheulu, ffrindiau a'r gwylwyr cartref yn fy nghefnogi. Roedd ennill medal efydd o flaen torf o’r fath yn un o adegau mwyaf cofiadwy fy mywyd.”

Ar ôl ymddeol o chwaraeon cystadleuol, mae Sara yn parhau i effeithio ar y gymuned Paralympaidd trwy fentora athletwyr, gan gynnwys y rhai a fydd yn cystadlu ym Mharis 2024. Mae ei dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i chwaraeon, fel gofalwr i'w mam a gwirfoddolwr, mae'n enghraifft o'r ymroddiad a'r tosturi y mae hi'n gobeithio ei roi i'w gyrfa yn y dyfodol.

Er gwaethaf yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu, mae Sara yn parhau i fod yn ymroddedig i ysbrydoli eraill. "Rydw i eisiau i bobl ddeall y gallan nhw barhau i gyflawni pethau gwych," meddai.

"Mae yna bethau i fyw amdanyn nhw o hyd ar ôl anaf, damwain neu salwch hirdymor. Efallai y bydd pobl yn meddwl bod eu bywyd wedi dod i ben. Gyda gwydnwch, gobaith, ffydd, a bod yn barod i addasu, gallwch chi barhau i wneud beth bynnag y gallech ei wneud o'r blaen. Wrth i un drws gau mae un arall yn agor, a gallwch chi reoli eich tynged. Er enghraifft, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n astudio yn y brifysgol!"

Mae taith academaidd Sara’r un mor drawiadol. Er gwaethaf ei rhwystrau iechyd, rhagorodd yn ei chwrs Mynediad at Wyddor Iechyd yng ngholeg Caerdydd a'r Fro, gan ennill Gwobr Goffa Keith Fletcher am ei hymrwymiad at astudio. Nawr, wrth iddi gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn PDC, mae hi'n edrych ymlaen at ddyfodol lle gall hi helpu eraill i ddarganfod posibiliadau newydd ar ôl digwyddiadau sy'n newid bywydau.