Ymchwil newydd yn gwerthuso gwasanaeth arloesol i ddioddefwyr trais a gyflawnir gan yr heddlu yng Nghymru

4 Medi, 2024

Dau ffigwr cysgodi. Mae un yn cyrlio mewn pêl ar y llawr, gan amddiffyn eu hunain â'u dwylo. Mae'r ffigwr arall yn sefyll, gallwn weld eu braich a’u dwrn wedi cau.

Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol gan aelod o’r heddlu, pwy allwch chi ymddiried ynddo i wneud adroddiad neu i geisio cymorth?

Mae tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad Dr Sarah Wallace ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi rhyddhau adroddiad ar wasanaeth eiriolaeth arloesol a gynlluniwyd i gefnogi dioddefwyr-goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan yr heddlu.

Comisiynwyd Tabw, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Mae'r gwasanaeth yn mynd i'r afael â bwlch critigol mewn cymorth arbenigol i ddioddefwyr/goroeswyr, gan eu hannog i geisio cymorth a chydnabod eu heriau unigryw.

Mae’r ymchwil, sef ymdrech ar y cyd rhwng Prifysgol De Cymru, y Ganolfan ar gyfer Ymchwil a Dysgu Plismona yn y Brifysgol Agored, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, a gwasanaethau cam-drin domestig lleol, yn gam sylweddol tuag at fynd i’r afael â mater hynod sensitif nad yw’n cael ei adrodd yn ddigonol yn aml.

Mae’r adroddiad gwerthuso, a ariannwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn tynnu sylw at arwyddocâd Tabw, a ddechreuodd drwy gyflawni peilot ym mis Hydref 2023, a phwysigrwydd partneriaeth a darparu gwasanaethau'n annibynnol i sicrhau cyfrinachedd ac ymddiriedaeth rhwng dioddefwyr a goroeswyr.

Pwysleisiodd Dr Wallace bwysigrwydd y cydweithio, gan nodi bod y bartneriaeth rhwng gorfodi’r gyfraith a gwasanaethau cam-drin domestig annibynnol yn hollbwysig i lwyddiant y gwasanaeth. Meddai, “Yr hyn a ddaeth drwodd mewn gwirionedd oedd cryfder y gwaith partneriaeth.

“Mae Tabw yn ddatblygiad hollbwysig wrth gefnogi goroeswyr trais a gyflawnir gan yr heddlu. Mae canfyddiadau cynnar ein gwerthusiad proses yn dangos, er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, ei fod eisoes yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin ymddiriedaeth a chydweithio rhwng y dioddefwyr, yr heddlu a gwasanaethau cam-drin domestig."

O ystyried pa mor newydd yw'r gwasanaeth, canolbwyntiodd yr ymchwil ar nodi heriau cynnar, galluogwyr, a'r effaith gychwynnol ar ddioddefwyr/goroeswyr. Er y gwelwyd rhai canlyniadau cadarnhaol eisoes, megis ymwybyddiaeth gynyddol o drais a gyflawnir gan yr heddlu o fewn heddluoedd, mae'r adroddiad yn amlygu'r angen i fonitro ac addasu'r gwasanaeth yn barhaus wrth iddo ddatblygu i ddiwallu anghenion goroeswyr.

Gan edrych ymlaen, mae'r tîm ymchwil yn archwilio cyfleoedd i gynnal gwerthusiadau pellach sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau goroeswyr. Mynegodd Dr Wallace obaith y gall canfyddiadau’r peilot hwn lywio’r gwaith o sefydlu gwasanaethau tebyg ledled Cymru a thu hwnt. Meddai, "Ein nod yw darparu model y gellir ei fabwysiadu'n ehangach, gan sicrhau bod dioddefwyr trais a gyflawnir gan yr heddlu yn derbyn y gefnogaeth y maent ei angen ac yn ei haeddu."