PDC a Chyngor Caerdydd yn dathlu 10 mlynedd o gynllun lleoli myfyrwyr

9 Chwefror, 2024

Luke Howells, Penny Haywood a Scott Parfitt

Mae partneriaeth lleoli myfyrwyr rhwng Prifysgol De Cymru (PDC) a Chyngor Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, gyda dau raddedig yn sicrhau rolau uwch yn y gwasanaeth caffael Ardal sydd newydd ei ffurfio.

Mae Penny Haywood, sef y fyfyrwraig gyntaf i gymryd rhan yn y cynllun, bellach yn Rheolwr Categori ar gyfer fframwaith cydweithredol rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, SEWSCAP (fframwaith adeiladu adeiladau), lle mae’n ymdrin â chaffael.

Mae ei chydweithiwr a’i gyd-raddedig Luke Howells yn Rheolwr Categori ar gyfer un arall o fframweithiau rhanbarthol Ardal, SEWH (fframwaith priffyrdd), sy’n delio â chaffael prosiectau peirianneg sifil ar draws De Cymru.

Datblygwyd y cynllun lleoli myfyrwyr gan Scott Parfitt, Uwch Ddarlithydd mewn Caffael a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi ym Mhrifysgol De Cymru, a Steve Robinson, Pennaeth Caffael Cyngor Caerdydd. Mae myfyrwyr sy’n astudio BSc Logisteg, Caffael a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn cael y cyfle i brofi eu hunain ym myd caffael gydag Ardal, partneriaeth gaffael gydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, a Chyngor Bro Morgannwg, sydd hefyd yn darparu SEWSCAP, SEWH a SEWTAPS (fframwaith gwasanaethau technegol a phroffesiynol).

Mae Ardal yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion tirwedd caffael sy’n datblygu’n gyflym a darparu atebion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Wrth sôn am lwyddiant y cynllun lleoli myfyrwyr, dywedodd Scott: “Mae Steve a minnau’n rhannu’r un gred bod caffael yn yrfa heriol iawn, ond gwerth chweil i ddechrau arni. Mae'n elfen hanfodol o sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn gweithio'n llwyddiannus gyda'r sector preifat i gyflawni prosiectau pwysig ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn ansicr sut y gellir datblygu gyrfa ym maes caffael. Aethon ni ati i newid hynny!

“Dylai gweld myfyrwyr fel Penny a Luke yn sicrhau swyddi uwch ac yn dod yn aelodau staff pwysig yn Ardal ysgogi myfyrwyr eraill i roi cynnig ar gaffael a ffurfio llwybr gyrfa. Mae caffael yn cael ei dalu'n dda, yn amrywiol yn ei weithgareddau, ac yn esblygu'n gyson, rhywbeth y gall myfyrwyr ei fwynhau a ffynnu ynddo. Rwyf wrth fy modd bod ein partneriaeth ag Ardal yn profi’n llwyddiant ac rwy’n annog pob myfyriwr i ystyried caffael fel gyrfa hyfyw a llwyddiannus.”

Mae Penny a Luke bellach yn chwarae rhan hollbwysig yng ngweledigaeth Ardal ar gyfer caffael i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, amddiffyn ein hamgylchedd, ac addasu i fyd sy’n cael ei ail-lunio gan newid hinsawdd. Maent yn hanfodol i gyflawni gwaith sydd wedi'i gynllunio i adeiladu cymunedau gwell trwy gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a helpu i reoli partneriaethau ag elusennau a phartneriaid cymunedol sy'n sicrhau newid diriaethol, cadarnhaol.

Ychwanegodd Steve Robinson, Pennaeth Ardal: “Yn ogystal â Penny a Luke sydd bellach yn dal rolau uwch, mae’r rhaglen a ddechreuodd yn 2013 wedi gweld 18 o fyfyrwyr naill ai’n symud ymlaen o fewn ein tîm neu’n symud ymlaen i rolau uwch gyda sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat. Mae caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu her fawr o ran recriwtio a chadw staff caffael ac mae’r rhaglen hon wedi bod yn hollbwysig i gefnogi twf ein tîm.

“Mae llwyddiant y rhaglen lleoli myfyrwyr yn amlwg, gan roi sgiliau a chyfleoedd newydd i unigolion ffynnu mewn amgylchedd gwaith deinamig ac amrywiol. Ni allaf ddiolch digon i Scott a Phrifysgol De Cymru am eu cyfraniad a’u brwdfrydedd i yrru gyrfa ym maes caffael yn ei blaen.

“Bydd unrhyw fyfyrwyr a graddedigion sy’n ymuno â ni yn y dyfodol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i leihau allyriadau carbon i Sero Net erbyn 2030, a sicrhau bod gwariant caffael yn fwy hygyrch i fusnesau bach, lleol a’r trydydd sector. Byddwn yn annog pobl i weld y cyfleoedd sydd o’u blaenau a chofleidio’r cyfle.”

Ffocws allweddol Ardal hefyd yw gwella arferion Gwaith Teg, Tegwch a Diogelu a fabwysiadwyd gan gyflenwyr a chynyddu buddion cymunedol a ddarperir gan gyflenwyr, a fydd yn cael eu holrhain a'u mesur i sicrhau effaith gymdeithasol wirioneddol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://ardal-procurement.gov.wales