Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol
8 Ebrill, 2024
Mae astudiaeth ymchwil newydd wedi’i chomisiynu gan Ofal Cymdeithasol Cymru i ddeall sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at ofal cymdeithasol. Ariennir yr ymchwil drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal tan ddiwedd 2024 a bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennau yn Ysgol Busnes Bayes i wneud y gwaith hwn.
Trwy’r astudiaeth ymchwil hon, maent yn gobeithio dysgu mwy am y manteision a’r cyfleoedd a grëir gan wirfoddoli a chael gwell dealltwriaeth o heriau gwirfoddoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn lleoliadau gofal preswyl i oedolion yng Nghymru.
Gall canfyddiadau'r ymchwil ddylanwadu ar y math o gefnogaeth sy’n cael ei rhoi ar waith ar gyfer gwirfoddoli. A gallwn ddefnyddio'r hyn a ddysgwn i hyrwyddo a datblygu model cynaliadwy a chadarnhaol sy'n cydnabod arfer da sydd eisoes yn bodoli a chyfraniad gwerthfawr gwirfoddoli o fewn y sector.
Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru, :"Bydd y gwaith hwn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o sut mae gwirfoddoli'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i fywydau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. Rydyn ni am dynnu sylw at arfer da mewn cyfranogiad gwirfoddolwyr ond hefyd deall ble mae heriau'n bodoli a’r gwersi sydd i’w dysgu."
Cymerwch ran: rhannu eich tystiolaeth
Os ydych chi'n ymwneud â sefydliad neu brosiect sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae gennym ddiddordeb mewn pob agwedd o wirfoddoli. Er enghraifft, hoffem ddysgu am sut mae gwirfoddoli'n cael ei brofi, ei reoli a'r adnoddau sy’n cael eu pennu. Mae hyn yn golygu deall pwy sy'n cymryd rhan, beth maen nhw'n ei wneud a pham, a'r heriau a'r cyfleoedd pwysig sy’n codi. Rydyn ni hefyd yn awyddus i glywed eich enghreifftiau o arfer da wrth ymwneud â gwirfoddolwyr.
Os ydych yn hapus i rannu ymchwil neu werthusiadau perthnasol yr ydych wedi'u cynnal ar unrhyw adeg ers 2010, neu gymryd rhan yn yr astudiaeth mewn ffordd mwy ffurfiol, cysylltwch â'r [email protected] ym Mhrifysgol De Cymru.