Adroddiad canmoladwy gan Ofsted am brentisiaethau heddlu PDC
24 Gorffennaf, 2024
Yn dilyn arolygiad trylwyr gan Ofsted (Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau) o brentisiaethau plismona ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), maent wedi derbyn dyfarniad swyddogol 'Da' yn gyffredinol, ond hefyd dyfarniad 'Rhagorol' am Ymddygiad ac Agweddau'.
Yn dilyn arolygiad trylwyr gan Ofsted (Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau) o brentisiaethau plismona ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), maent wedi derbyn dyfarniad swyddogol 'Da' yn gyffredinol, ond hefyd dyfarniad 'Rhagorol' am Ymddygiad ac Agweddau'.
Ar 1 Ebrill 2021, cymerodd Ofsted y gwaith o fonitro ansawdd pob prentisiaeth (hyd at a chan gynnwys lefel 7). Roedd hyn yn golygu, am y tro cyntaf, bod Sefydliadau Addysg Uwch sy'n darparu prentisiaethau yn Lloegr yn dod o fewn cylch gwaith Ofsted.
Ym mis Mai, ymwelodd arolygwyr Ofsted â champws y Brifysgol yn Nhrefforest a phedwar o’n safleoedd heddlu partner, gan adolygu Gradd-brentisiaeth Cwnstabl yr Heddlu (PCDA) a Phrentisiaeth Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOA).
Caiff y dyfarniadau eu categoreiddio i bedwar maes, yn ogystal â’u graddio ar wahân ar gyfer 'effeithiolrwydd cyffredinol', yn ogystal â dyfarniad ar gyfer 'Prentisiaethau'.
Canlyniadau arolygiad Ofsted PDC yw:
- Effeithiolrwydd Cyffredinol: Da
- Ansawdd yr Addysg: Da
- Ymddygiadau ac Agweddau: Rhagorol
- Datblygiad Personol: Da
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth: Da
- Prentisiaethau: Da
Y pedwar graddiad posibl ar gyfer pob elfen yw: Annigonol, Angen Gwella, Da, neu Ragorol.
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed tuag at y canlyniadau hyn – roedd yn ymdrech tîm go iawn sy'n cynnwys nid yn unig meysydd ar draws y Brifysgol, ond ein partneriaid allanol mewn heddluoedd hefyd. Mae cael canlyniadau mor dda ar ein harolygiad cyntaf yn glodfawr ac yn adlewyrchu darpariaeth broffesiynol, o ansawdd uchel, ein prentisiaethau plismona.
"Mae’r dyfarniad hwn yn dilyn ein hadolygiad QAA rhagorol ac mae'n dangos ein bod yn rheoli'r pethau hynny yr ydym yn eu rheoli gydag ansawdd eithriadol. Mae'r canlyniad hwn hefyd yn dangos, yn unol â'n strategaeth 2030, pa mor ymatebol ac arloesol y gallwn fod wrth weithio gyda'n partneriaid."