Hanesion Graddio | Tad gweithgar yn dathlu gradd dosbarth cyntaf

19 Gorffennaf, 2024

Mae Lewis yn sefyll gyda'i fraich o amgylch ei ferch. Mae hi'n gwenu ac yn dal tedi arth.

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o'n graddedigion yn croesi'r llwyfan yn eu cap a'u gŵn. I ddathlu, rydyn ni'n rhannu straeon rhai o'n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Lewis Bellringer, o Taunton, yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru (PDC) ar ôl seibiant o dair blynedd ar ddeg o'i astudiaethau.

Yn syth ar ôl ysgol, cafodd Lewis le ar gwrs hyfforddi pêl-droed yn PDC (Prifysgol Morgannwg ar y pryd) lle cyfarfu â'i gariad, Chloe, pan oedd hi’n gweithio tu ôl i far Undeb y Myfyrwyr.

Pan oedd y ddau yn eu hail flwyddyn, fe wnaethon nhw ddarganfod bod Chloe yn feichiog ac yn sydyn roedd angen iddynt ailystyried eu dyfodol. Penderfynodd Lewis ohirio'r brifysgol i gael swydd. Gadawodd gyda gradd sylfaen ond ni fynychodd ei raddio, yn hytrach dewisodd wario'r arian ar hanfodion i'r babi.

Roedd Lewis yn 20 oed pan ddaeth yn dad ac mae'n cyfaddef mai dyna'r peth gorau a mwyaf brawychus i ddigwydd iddo erioed. Dywedodd: "Dydych chi byth yn barod i gael babi. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod sut i droi’r peiriant golchi ymlaen, heb sôn am newid cewynnau."

"Roeddwn i wastad wedi bwriadu dod yn ôl a gorffen y radd, ond bywyd yw bywyd. Dechreuodd fy ngyrfa, cawson ni ein merch a'm blaenoriaeth oedd ennill arian i'n teulu."

Fe wnaeth diswyddiad annisgwyl yn 2023 achosi i Lewis ailystyried y radd hyfforddi pêl-droed.

"Roeddwn i'n meddwl, os na fyddaf yn ei gwneud nawr, ni fyddaf byth yn ei gwneud. Felly gwnes i gais am y BSc Hyfforddi a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol (atodol)," meddai.

"O fewn 24 awr cefais fy nerbyn ac ni allwn ei gredu."

"Yn amlwg, roedd angen i mi gael swydd o hyd oherwydd mae gen i ddau blentyn, partner ac un ci i fwydo, ond roeddwn i'n agored iawn yn fy holl gyfweliadau. Fe wnes i eu sicrhau fy mod i'n mynd yn ôl i'r brifysgol ond roeddwn i'n teimlo'n hyderus y gallwn ymrwymo i swydd llawn amser yn ogystal ag astudio'n llawn amser."

Doedd jyglo ei holl gyfrifoldebau ddim yn hawdd ond mae Lewis yn hoffi her.

"Roedd manteisio ar y cyfle i ddod yn ôl i PDC yn un o'r pethau gorau ar gyfer fy natblygiad personol fy hun. Mae'n dangos, i ddarpar gyflogwyr, fy mod i'n hapus i gymryd naid o ffydd. Rwy'n hapus i fynd y tu hwnt i'm ffiniau cyfforddus."

Wedi'i leoli'n bennaf yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bryste, mynychodd Lewis sesiynau preswyl yn PDC gyda myfyrwyr chwaraeon eraill. Pan ofynnwyd iddo a sylwodd ar y gwahaniaeth oedran gyda'i gyd-fyfyrwyr, dywedodd:

"Fe wnes i fwynhau'r sesiynau'n fawr a chwrdd â llawer o bobl newydd. Credaf fod bod yn berson mwy aeddfed a hyderus wedi helpu gyda hynny. Beth bynnag yw ein hoedran, rydyn ni i gyd yn dod â phrofiadau gwahanol, y gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrthyn nhw."

Roedd Lewis yn poeni na fyddai ei sgiliau ysgrifennu yn ddigon da ond cyn bo hir deliodd â’i nerfau gyda gwaith caled a dyfalbarhad. Dywedodd: "Fe wnes i drin fy astudiaethau fel ail swydd. Rhoddais i'r amser o'r neilltu a byddwn i'n darllen, darllen, darllen mwy a gofyn llawer o gwestiynau. Roedd fy narlithwyr yn wych wrth ymateb yn gyflym i fy e-byst, e-byst od weithiau.

Dywedodd: " Gall darllen eich gwaith drwyddo fod yn help mawr. Fy nghyngor i unrhyw fyfyriwr fyddai prawfddarllen eich gwaith o leiaf ddwywaith. Gallai fod y gwahaniaeth rhwng dau neu dri marc, a allai fod y gwahaniaeth rhwng dosbarth cyntaf a 2:1.

"Nawr rwy'n ystyried prawfddarllen, ysgrifennu a gramadeg fel rhai o fy nghryfderau allweddol. Mae'n amlwg y gallwch ddysgu hen gostog."