Mae benthyg yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu gwybodaeth gyfrifiadurol
31 Gorffennaf, 2024
Mae disgyblion ysgol yn cael cyfle i ddysgu mwy am gyfrifiadureg, diolch i gymorth darlithydd o Brifysgol De Cymru (PDC).
Yn ddiweddar, dychwelodd y darlithydd Gwybodeg ac Electroneg, Joseph Griffiths, i Ysgol Uwchradd Afon Taf yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tudful – lle’r oedd yn gweithio ym maes cymorth dysgu o'r blaen - i fenthyg set o becynnau cyfrifiadurol Raspberry Pi, y gellir eu defnyddio i hyrwyddo cyfrifiadureg i blant yn eu harddegau a'u cyflwyno i themâu sy'n ganolog i'r radd gyfrifiadureg a gynhelir gan PDC.
"Roedd yn wych gweld fy hen gydweithwyr ddoe wrth fenthyg offer PDC i Ysgol Uwchradd Afon Taf," meddai Joseph.
"Mae'r rhai ohonom yn yr Adran Gwybodeg ac Electroneg yn PDC yn credu ei bod yn bwysig i fyfyrwyr ddysgu am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y Rhyngrwyd Pethau (IoT), Rhaglennu Python, a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol. Mae ein cwrs BSc Cyfrifiadureg wedi'i gynllunio i ddarparu profiad a gwybodaeth ymarferol yn y meysydd hyn.
"Mae'n dda gwybod y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd da o'r offer."
Joseph yn trosglwyddo’r peiriannau Raspberry Pi i Emelie Cox, sy’n athrawes gyfrifiadurol yn Afon Tâf