Meithrinfa PDC i blant ag oediad mewn datblygiad yn dyfarnu ysgoloriaeth am y bedwaredd flwyddyn

31 Hydref, 2024

Rhes o fachau cotiau lliwgar, sy'n dangos lleoliad i blant.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn cynnig Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar sy'n darparu cymorth arbenigol i blant, chwech oed ac iau, sydd ag awtistiaeth neu oediad mewn datblygiad. Am y pedair blynedd diwethaf, maent wedi dyfarnu ysgoloriaeth i deulu, sydd wedi galluogi eu plentyn i fynychu'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Mae'r gwasanaeth, sy'n dathlu 10 mlynedd ers ei agoriad, yn edrych fel unrhyw leoliad meithrin arall ond mae'n defnyddio therapi dadansoddi ymddygiad, dull profedig i helpu plant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, chwarae a dysgu hanfodol. Wedi'i staffio gan dîm o staff meithrin a chlinigol cymwysedig, a'i gefnogi gan fyfyrwyr sy'n astudio seicoleg yn PDC, darperir therapi mewn fformat personol a grŵp.

Mae'r ysgoloriaeth prawf modd yn caniatáu i deuluoedd, na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at wasanaethau, dderbyn therapi am ddim. Ariennir yr ysgoloriaeth hon gan roddion elusennol ac fe'i henwyd er cof am Emma Abberley - myfyrwraig ymroddedig o Brifysgol De Cymru a oedd yn angerddol am helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn anffodus, bu farw. Mae'r ysgoloriaeth yn parhau â gwaddol Emma drwy gynnig cymorth i deuluoedd mewn angen.

Dywedodd Christopher Seel, Arweinydd Clinigol PDC: "Yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar rydym yn cefnogi plant gydag oediad iaith a chyfathrebu nad ydynt yn gallu mynegi eu dymuniadau a'u hanghenion. Rydym yn angerddol am roi llais i blant, boed hynny drwy gyfnewid lluniau, eu helpu gyda datblygu lleferydd, neu addysgu iaith arwyddion."

Dywedodd Penny Abberley, mam Emma: "Roedd Emma wrth ei bodd yn gwirfoddoli yn y clinig. Treulio amser gyda'r plant oedd ei phwrpas mewn bywyd. Trwy'r ysgoloriaeth mae'r pwrpas hwn yn parhau.

"Gwaddol Emma yw’r ysgoloriaeth ac rydw i a theulu Emma yn gobeithio y bydd yr ysgoloriaeth yn parhau am flynyddoedd lawer gan wella bywydau'r plant a'u teuluoedd.

"Rydym yn ddiolchgar i'r Brifysgol a phawb sy'n helpu i wneud yr ysgoloriaeth yn bosibl. Roedd gan Emma gymaint mwy i'w roi, a thrwy'r ysgoloriaeth, rwy'n gobeithio y bydd hi'n cael ei chofio am y cariad a'r angerdd yr oedd ganddi dros helpu plant ag awtistiaeth ac am hynny byddaf bob amser yn wirioneddol ddiolchgar."

Mae'r ysgoloriaeth wedi derbyn cyllid gan deulu Emma Abberley ond mae hefyd yn codi arian o ddigwyddiadau fel dawns flynyddol myfyrwyr Seicoleg PDC. Mae'r tîm Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn falch iawn o allu cynnig yr ysgoloriaeth hon unwaith eto ac yn gobeithio gallu gwneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Croesawir cyfraniadau i gronfa’r ysgoloriaeth trwy glicio'r ddolen hon neu gysylltu â'r [email protected].