20 o raddedigion PDC yn cael eu cydnabod am eu gwaith ar ffilmiau a enwebwyd am BAFTA ac Oscar
24 Ionawr, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/01-january/Oscars-Statues.jpg)
Mae graddedigion o gyrsiau Animeiddio a Dylunio ym Mhrifysgol De Cymru wedi gweithio ar rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd y swyddfa docynnau eleni, a restrir ymhlith enwebiadau gwobrau BAFTA ac Oscar 2024.
Mae cyfanswm o 20 o gyn-fyfyrwyr PDC wedi gweithio ar ffilmiau fel Spider-Man: Across the Spider-Verse, Chicken Run 2: Dawn of the Nugget, Wonka, Guardians of the Glazy Vol. 3 a llawer mwy.
Roedd Jakub Kupcik, a raddiodd yn 2018 o BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol, yn Uwch Artist Goleuo ar Spider-Man: Across the Spider-Verse, sydd wedi’i enwebu ar gyfer BAFTA am y Ffilm Animeiddiedig Orau, ac Oscar am y Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau.
Roedd Joseph Lewis, a raddiodd o BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol yn 2009, yn Animeiddiwr ar Guardians of the Galaxy Vol. 3, sydd wedi’i henwebu ar gyfer Oscar am yr Effeithiau Gweledol Gorau. Roedd Joseph hefyd yn Brif Animeiddiwr ar Wonka, sydd ar y rhestr fer ar gyfer BAFTA am y Ffilm Brydeinig Eithriadol.
Roedd Matt Jones, a raddiodd yn 1996 o BA (Anrh) Animeiddio, yn Artist Bwrdd Stori ar y ffilm, yn ogystal â Chicken Run 2: Dawn of the Nugget, sy’n gystadleuydd arall ar gyfer BAFTA am y Ffilm Animeiddiedig Orau.
Ymhlith yr 17 o raddedigion a weithiodd ar Chicken Run 2: Dawn of the Nugget mae:
- Mathew Rees (BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol, 2001) – Goruchwyliwr Animeiddio CG
- Tim Allen (BA (Anrh) Animeiddio, 1998) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Jody Meredith (BA (Anrh) Animeiddio, 1995) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Jack Slade (BA (Anrh) Animeiddio, 1995) – Uwch Gwneuthurwr Pypedau a Cherflunydd
- Alison Evans (BA (Anrh) Animeiddio, 1996) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Jason Comley (BA (Anrh) Animeiddio, 2002) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Rhodri Lovett (BA (Anrh) Animeiddio, 2004) – Prif Animeiddiwr Cymeriad
- Ed Jackson (BA (Anrh) Animeiddio, 2004) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Lee Bowditch (BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol, 2008) – Modelwr CG
- Paul Thomas (BA (Anrh) Animeiddio, 2008) – Animeiddiwr Stop-Motion
- Oliver Geen (BA (Anrh) Animeiddio, 2008) – Uwch Gwisgwr Set
- Phil Davies (BA (Anrh) Animeiddio, 2008) – Gwisgwr Set
- James Carlisle (BA (Anrh) Animeiddio, 2014) – Animeiddiwr Stop Motion
- Sean Gregory (BA (Anrh) Animeiddio, 2014) – Prif Animeiddiwr Cymeriad
- Saeed Ahmed (BA (Anrh) Animeiddio, 2015) – Gwneuthurwr Pypedau
- Grace Mahony (BA (Anrh) Dylunio Setiau Teledu a Ffilm, 2016) – Cyfarwyddwr Celf Cynorthwyol
Yn ogystal â'r enwebiadau BAFTA ac Oscar, cafodd graddedigion eu cydnabod ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Annie – sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ym maes animeiddio – a gwobrau'r Gymdeithas Effeithiau Gweledol (VES).
Mae Spider-Man: Across the Spider-Verse yn cystadlu am bum Gwobr Annie; Nodwedd Orau, Effeithiau Gorau, Dylunio Cymeriad, Cyfeirio a Dylunio Cynhyrchu – yn ogystal â phedair gwobr VES; Cyfuno Delweddau a Goleuo Rhagorol, Effeithiau Gweledol, Amgylchedd a Grëwyd a Sinematograffi Rhithwir.
Mae The Inventor, yr oedd Matt Jones yn Artist Bwrdd Stori arno, wedi’i henwebu am Wobr Annie am y Nodwedd Annibynnol Orau, tra bod Chicken Run 2: Dawn of the Nugget wedi’i henwebu am yr Effeithiau Gorau a'r Bwrdd Stori Gorau yng Ngwobrau Annie, a Gwobr VES am Effeithiau Gweledol Eithriadol mewn Nodwedd Animeiddiedig.
Enwebwyd Guardians of the Galaxy Vol. 3 ar gyfer Gwobr Annie am y wobr Animeiddio Cymeriad Gorau– Ffilmio Byw, yn ogystal â dwy wobr VES; Effeithiau gweledol Eithriadol a Chymeriad Animeiddiedig Eithriadol mewn Nodwedd Ffotoreal.
Mae The Little Mermaid hefyd ar restr fer Gwobrau Annie ar gyfer Animeiddio Cymeriad Gorau –Ffilmio Byw, tra bod Wonka ymhlith yr enwebeion ar gyfer Gwobr VES am Gymeriad Animeiddiedig Eithriadol mewn Nodwedd Ffotoreal.
Mae The Hounds of Annwn, a gyfarwyddwyd ac a animeiddiwyd gan Beth Hughes a raddiodd o BA (Anrh) Animeiddio yn 2010, wedi derbyn Gwobr Dangosiad y Gynulleidfa yng Ngwobrau Animeiddio Prydain eleni.
Dywedodd Adam Williams, Dirprwy Ddeon y Gyfadran Busnes a'r Diwydiannau Creadigol yn PDC: "Mae'n wych gweld cymaint o'n graddedigion yn cael sylw ar y lefelau uchaf yn y diwydiant, ar restr cyflawniad nodedig a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae eu creadigrwydd a'u proffesiynoldeb yn dyst i'r dalent a'r cyfleoedd a meithrinir yn ystod eu hastudiaethau yma yn PDC."
Bydd Gwobrau BAFTA 2024 yn cael eu cynnal ddydd Sul 18 Chwefror yn Llundain.
Mae'r pleidleisio terfynol ar gyfer y gwobrau Oscar yn dechrau ar 22 Chwefror ac yn dod i ben ar 27 Chwefror 2024, gyda 96ain seremoni flynyddol Gwobrau'r Academi yn cael ei chynnal ddydd Sul 10 Mawrth yn Los Angeles.