Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2024 | “Mae nyrsio anableddau dysgu yn ymgorffori tosturi”
10 Mai, 2024
Mae Phatlapa Nazemi, o Lanisien, yn nyrs Anableddau Dysgu yn ail flwyddyn ei hyfforddiant ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Yn wreiddiol o Wlad Thai, bu Phatlapa yn gweithio ym maes marchnata cyn iddi symud i Gymru ond arweiniodd diagnosis ei mab o awtistiaeth at y maes gofal iechyd hwn.
Meddai: “Cyn diagnosis , doeddwn i ddim yn gwybod llawer am anableddau dysgu. Fodd bynnag, ymyriad nyrs a’i hargymhelliad y dylid cyfeirio at feddyg, a arweiniodd at ei ddiagnosis yn 3 oed. Cawsom gymorth dilynol a oedd yn golygu ei fod yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd. Mae e’n 12 oed bellach ac yn ffynnu’n academaidd.”
Gwnaeth Phatlapa gais i astudio Tystysgrif Addysg Uwch mewn Iechyd a Lles Cymunedol yn PDC cyn symud ymlaen i'r cwrs gradd a dywed hi ei bod wedi newid ei bywyd.
“Mae dewis i ddod yn nyrs Anableddau Dysgu wedi bod yn daith drawsnewidiol i mi”, meddai hi.
“Nid yw’n ymwneud â gwella salwch yn unig. Mae’n ymwneud â dod â hapusrwydd i gleifion a’u teuluoedd drwy fynd i’r afael â heriau iechyd, gan gynnwys anableddau gydol oes, gydag empathi a chefnogaeth.”
Fel rhan o’r cwrs, mae Phatlapa wedi gweithio mewn lleoliadau ar draws y sector ond mae hi’n teimlo y gall hi gyfrannu fwyaf at weithio gyda phobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog.
Dywedodd hi: “Mae nyrsio anableddau dysgu yn ymgorffori tosturi gan ganolbwyntio ar ddewisiadau unigol a gwneud addasiadau angenrheidiol i sicrhau bod anghenion lles pob person yn cael eu diwallu. Mae'n ymwneud â deall a chroesawu'r heriau hyn, gan wybod nad ydyn nhw’n diffinio bywyd y person. Darparu digon o gefnogaeth o fewn y system ofal yw curiad calon nyrsio, trwy wneud pob dydd yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl”
Dywedodd Dr Stacey Rees, Arweinydd Cwrs (Nyrsio Anableddau Dysgu): “Mae Phatlapa yn fyfyrwraig ysbrydoledig. Mae hi wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau dysgu, ac rwyf mor falch ei bod wedi dewis dilyn gyrfa mewn nyrsio anabledd dysgu. Does gen i ddim amheuaeth y bydd hi’n cyflawni ei nodau.”